Mae oriawr gan gwmni Clogau ar werth er mwyn helpu Clwb Pêl-droed Llandudno, sy’n wynebu dyfodol ansicr.

Dydy’r union ddyluniad ddim wedi cael ei werthu i’r cyhoedd o’r blaen, ac fe gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru fel anrheg i chwaraewyr tîm pêl-droed dynion Cymru wrth iddyn nhw adael i deithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae rhif 72 ar yr oriawr, a hynny allan o gant sydd wedi’u gwneud, ac fe fydd ar gael yn raffl y clwb.

Mae modd prynu tocyn am £10 drwy fynd i wefan y clwb, a bydd y tocyn buddugol yn cael ei dynnu o’r het yn fyw ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y clwb ym mis Rhagfyr.

‘Brwydro i oroesi’

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein clwb wedi brwydro’n barhaus i oroesi, ond diolch i’r rhodd caredig hwn gan Clogau, gallwn ni barhau i gymryd camau positif ymlaen,” meddai Hayley Jenkins, Cyfarwyddwr Masnachol Clwb Pêl-droed Llandudno.

“Rydym yn hyderus y bydd rhoddion drwy’r raffl, ynghyd ag ymdrechion codi arian anhygoel ein holl gefnogwyr, yn ein helpu ni i sicrhau dyfodol ein clwb ar gyfer 2024.”

Yn ôl Ben Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr Clogau, mae pêl-droed yn rhan fawr o hunaniaeth Gymreig.

“Ac rydyn ni mor falch o’n tîm cenedlaethol a’r ffordd ddaru nhw chwarae yng Nghwpan y Byd y llynedd, a dyna pam ein bod ni mor drist o weld rhan hanfodol o gymuned Gymreig leol fel Clwb Pêl-droed Llandudno yn ei chael hi’n anodd parhau i weithredu,” meddai.

“Rydyn ni wedi cyffroi o weld yr oriawr sy’n wneuthuriad cyfyngedig ar gael mewn raffl, a gobeithio y bydd yn helpu i godi arian i helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o sêr pêl-droed Cymru.”