Mae pobol yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer rasys ffordd Nos Galan rhif 65 yn Aberpennar eleni, gyda’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar y gorwel.
Mae mwy na 1,800 o bobol wedi cofrestru ar gyfer rasys Nos Galan eleni, sy’n ei wneud yn un o’r digwyddiadau mwyaf yn ei hanes, yn ôl Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae’r galw am lefydd yn gweld cystadleuwyr o bob categori yn cofrestru drwy gydol y cyfnodau ym mis Medi, ac mae llai na 100 o lefydd yn weddill ar draws yr holl gategorïau erbyn hyn.
Gyda’r cyfnod olaf am lefydd ar agor ers dydd Llun (Medi 25), dywed y Cyngor mai hwn yw’r cyfle olaf i ymuno â’r digwyddiad sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 65 oed eleni.
Bydd y cyfnod cofrestru’n cau am 6 o’r gloch ar nos Lun (Hydref 2), ac mae’r Cyngor yn annog pobol sydd eisiau cymryd rhan i sicrhau eu bod nhw’n archebu eu lle ac yn ymuno â mwy na 1,800 o bobol eraill fydd yn cystadlu yn Aberpennar ar Nos Calan.
Dathliad arbennig o waddol Guto Nyth Bran
“Mae llai na 100 o lefydd ar ôl nawr ar gyfer rasys ffordd Nos Galan, ac mae wedi bod yn wych gweld y cyffro a’r galw am y digwyddiad eleni,” meddai’r Cynghorydd Ann Crimmings, cadeirydd pwyllgor rasys ffordd Nos Galan.
“Byddwn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cystadlu neu gymryd rhan i archebu eich lle nawr, cyn i’r tocynnau olaf fynd.
“Bydd y digwyddiad eleni hefyd yn nodi 65 mlynedd ers i’r rasys ffordd ddechrau, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n sicrhau eich lle, ac ymunwch â ni yn Aberpennar ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn ddathliad arbennig o waddol Guto Nyth Bran.”
Mae rasys ffordd Nos Galan yn dathlu bywyd a chyrhaeddiadau’r rhedwr Cymreig Guto Nyth Bran.
Wedi’i sefydlu yn 1958 gan y rhedwr lleol Bernard Baldwin, caiff y ras ei rhedeg dros 5km o amgylch canol tref Aberpennar.