Mae cefnogwyr wedi bod yn diolch i gyn-Drysorydd, Cadeirydd a Llywydd Undeb Rygbi Cymru am ei waith i sicrhau adeiladu Stadiwm y Principality yn dilyn y newyddion ei fod wedi marw yn 83 oed.

Glanmor Griffiths oedd arweinydd y cynllun i adeiladu Stadiwm y Mileniwm ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999.

Yn ogystal â chynnal Cwpan y Byd yn 1999, llwyddodd Glanmor Griffiths i sicrhau bod rhai gemau ym mhencampwriaethau 2007 a 2015 yn cael eu chwarae yn y Stadiwm hefyd.

Ganed Glanmor ar 21 Rhagfyr 1939, y trydydd o saith o blant, a mynychodd Ysgol Ramadeg Ogwr hyd nes ei fod yn 16 oed pan aeth i weithio i Fanc y Midland.

Bu’n gweithio yn Paddock Wood, Tonypandu, Llandochau, Pen-y-bont ar Ogwr, Ascot a Llundain.

Priododd Mair ac yntau yn 1964 ac fe gawsant 4 o blant.

Ond pan gafodd ei wraig gancr y fron yn yr 1980au cynnar, fe ymddeolodd Griffiths yn hanner cant oed ac yna daeth yn Drysorydd Undeb Rygbi Cymru, fel olynydd Ken Harris yn 1985.

Er iddo ddod yn Gadeirydd a Llywydd ar yr Undeb yn ddiweddarach, caiff ei gofio’n bennaf am fwrw’r maen i’r wal a gwireddu’r freuddwyd o adeiladu Stadiwm y Mileniwm.

‘Dyled fawr’ i Glanmor

Dywedodd Cardeirydd presennol Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood: “Mae dyled rygbi Cymru i Glanmor Griffiths yn fawr.

“Hebddo, ni fyddai Stadiwm Principality yn bodoli.

“Wrth i’r gwaith adeiladu ddigwydd, dyma oedd un o brosiectau adeiladu mwyaf uchelgeisiol gorllewin Ewrop.

“Mae’r Stadiwm wedi cyfrannu cymaint at y genedl ers ei hadeiladu yn 1999.

“Gan i Glanmor Griffiths wasanaethu’r Undeb mewn tair swydd hynod flaenllaw, mae ei ddylanwad ar y gamp yng Nghymru yn ddwfn a sylweddol.

“Hoffwn ymestyn ein cydymdeimlad i’w deulu a’i gyfeillion am eu colled drom.”

‘Stadiwm rygbi orau’r byd’

Mae Clwb Rygbi Cwm Ogwr hefyd wedi talu teyrnged i Glanmor Griffiths, oedd yn llywydd ar y clwb.

“Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwolaeth Llywydd Clwb Rygbi Cwm Ogwr, Llywydd Undeb Rygbi Cymru a thad sefydlol Stadiwm y Mileniwm, Mr Glanmor Griffiths, sydd wedi marw yn 83 oed.

“Cydymdeimlad i’w holl deulu a ffrindiau gan bawb yng Nghlwb Rygbi Cwm Ogwr ar yr adeg drist iawn hon.”

Mae cefnogwyr wedi bod yn rhannu gair o ddiolch am ei waith ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

“Diolch am y stadiwm rygbi orau’r byd,” meddai un ar wefan X (Twitter gynt).

Ychwanegodd un arall ar Facebook: “Dyn gwych o [faes] rygbi Cymru’n cyflwyno’r stadiwm newydd ar amser ac o fewn y gyllideb ar gyfer Cwpan y Byd 1999, a’r stadiwm orau a mwyaf amryddawn yn y byd.”