Swydd Derby yw gwrthwynebwyr Morgannwg yng Nghaerdydd ar gyfer gêm ola’r tymor criced heddiw (dydd Mawrth, Medi 26).
Hon fydd gêm ola’r prif hyfforddwr Matthew Maynard wrth y llyw, yn dilyn ei ymddiswyddiad yn ddiweddar.
Mae’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten yn dychwelyd ar ôl anaf, tra bod y batiwr Sam Northeast allan ar ôl cael llawdriniaeth.
Mae Morgannwg yn bumed, a’u gobeithion o ennill dyrchafiad ar ben, tra bod Swydd Derby yn chweched.
Mae hon yn gêm hanesyddol, wrth i ddynes – Sue Redfern – ddyfarnu am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.
Gemau’r gorffennol
Cafodd Morgannwg fuddugoliaeth swmpus dros Swydd Derby yng Ngerddi Sophia y llynedd, diolch i record David Lloyd (313), wrth i Forgannwg sgorio 550 am bump cyn cau’r batiad.
Cipiodd Ajaz Patel, troellwr Seland Newydd, bum wiced wrth orfodi’r Saeson i ganlyn ymlaen.
Ar ôl chwarae yn Abertawe yn 2018 a 2019, doedd Swydd Derby heb ymweld â Chaerdydd ers 2017 cyn hynny.
Gêm ddydd a nos oedd honno o ganlyniad i arbrawf gyda’r bêl binc dan y llifoleuadau.
Enillodd y Saeson o 39 rhediad wrth i Forgannwg gwrso 212 i ennill, gyda’r troellwr ifanc Hamidullah Qadri yn cipio pum wiced yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf erioed.
Tîm Morgannwg: E Byrom, Z ul Hassan, C Ingram, K Carlson (capten), B Root, C Cooke, D Douthwaite, A Gorvin, T van der Gugten, J Harris, J McIlroy
Tîm Swydd Derby: H Came, L Reece, B Guest, M Wagstaff, L du Plooy (capten), M Lamb, A Dal, A Thomson, Z Chappell, P Brown, S Conners