Bydd gwersi Cymraeg yn cael eu cynnig i drigolion yn Llydaw cyn i Gymru chwarae eu gêm nesaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Fe fydd Elwyn Hughes, tiwtor sy’n byw ar gyrion Pontypridd, yn ymweld â dinas Naoned (Nantes) pan fydd Cymru’n herio Georgia yno ymhen pythefnos.

Ynghyd â chynnal gwersi Cymraeg i oedolion a phobol ifanc yng nghanolfan Ewropeaidd y ddinas, bydd yn dysgu’r iaith i wirfoddolwyr lleol, ac yn helpu i groesawu torfeydd i’r gêm.

Mae Naoned wedi’i gefeillio â Chaerdydd ers 1964 ac yn ôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n trefnu’r cynllun ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mae nifer yno’n ymwybodol o Gymru a’r Gymraeg.

Bydd ymweliad Elwyn Hughes, sy’n dod yn wreiddiol o Ruthun, yn cyd-fynd â nifer o ddigwyddiadau eraill yn y ddinas i hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg fel rhan o gynllun ‘Cymru yn Ffrainc’ Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â’r gwersi Cymraeg, bydd gêm olaf Cymru yn eu grŵp yn cael ei dangos yn y ganolfan Ewropeaidd, Maison de l’Europe, gyda sesiwn blasu cwrw, gwin a wisgi Cymreig.

‘Cyflwyno Cymru’ i bobol

Bu Elwyn Hughes yn diwtor Dysgu Cymraeg am dros 40 mlynedd, cyn iddo ymddeol yn ddiweddar.

Yn siaradwr Ffrangeg, bu’n byw am gyfnod yn Llydaw a Quebec.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Nantes, a hynny am y tro cyntaf erioed,” meddai.

“Mi fydd hefyd yn brofiad newydd i mi fod yng nghanol bwrlwm Cwpan Rygbi’r Byd a’r holl ddigwyddiadau yn ymwneud â Chymru.

“Yn y gwersi ar gyfer oedolion a phobol ifanc yr ardal yn Maison de l’Europe, mi fydda i’n cyflwyno Cymru iddyn nhw – ein hanes a’n diwylliant – ac ychydig bach o Gymraeg.

“Yna, mi fydda i’n rhoi gwersi i’r gwirfoddolwyr fydd yn gweithio yn ystod gêm olaf Cymru yn eu grŵp, yn erbyn Georgia.

“Dw i’n siŵr y bydd yna amryw o gefnogwyr Cymru fydd yn synnu o gael stiwardiaid yn Ffrainc yn eu cyfarch yn Gymraeg!”

Elwyn Hughes

‘Ennyn diddordeb’

Ychwanega Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mai’r prif nod ydy ennyn diddordeb yn y Gymraeg a Chymru.

“Rydyn ni’n hynod gyffrous y bydd y Gymraeg yn cael ei dysgu allan yn Ffrainc fel rhan o fwrlwm Cwpan y Byd,” meddai.

“Roedd Elwyn yn ddewis amlwg ar gyfer y prosiect gan ei fod yn siarad Ffrangeg ac yn diwtor Dysgu Cymraeg profiadol ac uchel ei barch.

Bonne chance, Elwyn!”