Mae tîm Cymru drwodd i rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc, yn dilyn buddugoliaeth o 40-6 dros Awstralia.

Mae’r canlyniad yn golygu bod gobeithion tîm Eddie Jones o aros yn y twrnament yn y fantol, gyda’u seithfed colled mewn wyth gêm o dan reolaeth y prif hyfforddwr.

Dyma fyddai’r tro cyntaf erioed iddyn nhw fethu â chyrraedd rownd yr wyth olaf.

Gallai dyfodol Jones wrth y llyw fod yn y fantol hefyd, ac yntau eisoes dan bwysau yn dilyn adroddiadau ei fod e wedi’i gyfweld am swydd prif hyfforddwr Japan heb yn wybod i’r undeb.

Yr eilydd o faswr Gareth Anscombe giciodd y rhan fwyaf o bwyntiau Cymru – 23 – wrth i ddisgyblaeth Awstralia gostio’n ddrud iddyn nhw yn y pen draw.

Hon yw buddugoliaeth waethaf erioed Awstralia yn hanes Cwpan y Byd.

Hanner cyntaf

Doedd hi ddim yn hir cyn i Gymru fynd ar y blaen, wrth i’r canolwr Nick Tompkins a’r blaenasgellwr Jac Morgan hollti amddiffyn Awstralia i greu gofod i’r mewnwr Gareth Davies i groesi am gais, a Dan Biggar yn ychwanegu’r trosiad.

Ond doedd hi ddim yn hir cyn i’r maswr anafu ei frest a gorfod gadael y cae, na chwaith cyn i Awstralia sgorio’u pwyntiau cyntaf, gyda chic gosb gan Ben Donaldson i’w gwneud hi’n 7-3.

Daeth Awstralia yn ôl o fewn pwynt i Gymru ar ôl 14 munud, wrth i Donaldson ychwanegu ail gic gosb, wrth iddyn nhw ddechrau gafael yn y gêm ar ôl dechrau ansicr.

Ond Cymru sgoriodd y pwyntiau nesaf, wrth i’r eilydd Gareth Anscombe gicio cic gosb, ei bwyntiau cyntaf erioed yng Nghwpan y Byd, cyn ychwanegu triphwynt arall yn dilyn symudiad ddechreuodd yn eu dwy ar hugain eu hunain i’w gwneud hi’n 13-6.

Fe wnaeth Cymru ymestyn eu mantais i ddeg pwynt ar ôl 37 munud, wrth i Rob Valetini gael ei gosbi yn y sgarmes, a’r triphwynt yn dod oddi ar droed Anscombe unwaith eto.

Gallai Cymru’n hawdd iawn fod wedi ymestyn eu mantais ar drothwy hanner amser, wrth i George North ryddhau Louis Rees-Zammit, ond cafodd ei ddal ar y llinell gais gan amddiffyn Awstralia.

Amddiffyn Cymru, mewn gwirionedd, oedd wedi creu’r cyfleoedd i Gymru drwy gydol yr hanner, wrth iddyn wneud 103 o daclau, o gymharu â 41 gan Awstralia.

Ail hanner

Yn yr un modd â’r hanner cyntaf, dechreuodd Cymru’r ail hanner ar dân.

Daeth cic gosb yn dilyn trosedd o’r sgrym gan Awstralia, cyn iddyn nhw ymestyn eu mantais gyda chic o’r sgrym gan Gareth Davies, gafodd ei chwrso gan Nick Tompkins am gais, cyn i Anscombe ychwanegu’r trosiad i’w gwneud hi’n 26-6.

Mantais o 23 pwynt oedd gan Gymru ar ôl 51 munud, wrth i dacl uchel ar Tompkins gan Samu Kerevi arwain at driphwynt arall i Anscombe.

Roedd hi’n 32-6 i Gymru ar ôl awr, wrth i Carter Gordon gicio’r bêl i’r awyr â’i dîm yn camsefyll, ac Anscombe yn manteisio gyda thriphwynt arall, cyn cicio gôl adlam funudau’n ddiweddarach i ychwanegu tri arall.

Daeth trydydd cais Cymru o lein bum metr, wrth i’r blaenwyr hyrddio drosodd am gais cynta’r capten Jac Morgan yng Nghwpan y Byd, ond methodd Anscombe â’r trosiad gyda munud yn weddill o’r 80.

Bu bron i Awstralia sgorio cais cysur gyda symudiad ola’r gêm, ond arhosodd amddiffyn Cymru yr un mor gadarn â’r wên lydan ar wyneb Warren Gatland wrth i’r dyfarnwr Wayne Barnes chwythu’r chwiban olaf i atal Suliasi Vunivalu.

Byddai buddugoliaeth dros Georgia yn eu gêm nesaf yn sicrhau bod Cymru’n gorffen ar frig eu grŵp, ac mae’n debygol mai’r Ariannin, Japan neu Samoa fyddai eu gwrthwynebwyr ym Marseille yn y rownd nesaf.