Cafodd bron i 6,500 o gardiau coch a melyn eu rhoi mewn gemau pêl-droed yn wyth cynghrair uchaf Cymru yn ystod tymor 2022/23.

Roedd dros 20% o’r 6,455 cerdyn yn deillio o ddigwyddiadau neu weithredoedd y gellid bod wedi’u hosgoi, yn ôl ystadegau Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Fe wnaethon nhw arwain at glybiau’n gwario £13,700 mewn costau disgyblu yn ystod y tymor.

Roedd y digwyddiadau’n cynnwys defnyddio iaith sarhaus neu ddifrïol, yn aml tuag at ddyfarnwyr, ynghyd ag ymddygiad ymosodol.

Meithrin parch yn ‘bwysicach nag erioed’

Er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dangos parch ar y cae ac oddi arno, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cynnal wythnos ‘Chwarae Teg’ tan Hydref 1 ar gyfer holl glybiau’r Gynghrair Genedlaethol.

Dywed Rheolwr Disgyblaeth y Gymdeithas Bêl-droed mai’r nod ydy atgoffa pawb am bwysigrwydd parchu ei gilydd.

“Dydyn ni ddim eisiau casglu’r ffïoedd camymddwyn hyn y gellir eu hosgoi,” meddai Margaret Barnett.

“Byddai’n well gennym ni weld yr arian yn aros ym mhocedi chwaraewyr a chlybiau wrth iddyn nhw ddangos Chwarae Teg.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n clybiau ac unigolion am gefnogi’r ymgyrch yn ystod tymhorau blaenorol.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n gweld niferoedd uchel o gardiau melyn a coch y gellir eu hosgoi yn ein gêm, a gall y gost i glybiau fod yn niweidiol.

“Dyna pam fod magu gwell parch mewn pêl-droed yng Nghymru a datblygu ffyrdd unigryw o fynd i’r afael â hyn yn bwysicach nag erioed.”