Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi tîm rygbi Cymru i herio Awstralia yng Nghwpan y Byd yn Lyon nos Sul (Medi 24, 8 o’r gloch).

Bydd y clo Adam Beard yn ennill ei hanner canfed cap wrth gadw cwmni i Will Rowlands yn yr ail reng.

Bydd y blaenasgellwr Jac Morgan yn arwain y tîm, ac yntau’n un o driawd – gyda Taulupe Faletau a Louis Rees-Zammit – sydd wedi dechrau pob gêm yn y twrnament hyd yn hyn.

Mae Aaron Wainwright yn dychwelyd i’r rheng ôl hefyd.

Josh Adams fydd ar yr asgell gyferbyn â Rees-Zammit, gyda Liam Williams yn gefnwr.

Nick Tompkins a George North fydd yn dechrau yn y canol, gyda’r mewnwr Gareth Davies a’r maswr Dan Biggar yn haneri.

Gareth Thomas a Tomas Francis yw’r ddau brop, gyda’r bachwr Ryan Elias yn cwblhau’r rheng flaen.

Yr eilyddion yw Tomos Williams, Gareth Anscombe, Rio Dyer, Elliot Dee, Corey Domachowski, Henry Thomas, Dafydd Jenkins a Taine Basham.

Warren Gatland yn fodlon ei fyd

Dywed Warren Gatland ei fod e’n fodlon ei fyd ar drothwy’r gêm fawr yn erbyn Awstralia, gyda dwy fuddugoliaeth a deg o bwyntiau hyd yn hyn.

Dywed fod hyder yn y garfan, a bod y paratoadau wedi bod yn mynd rhagddyn nhw’n dda.

“Mae pob gêm yng Nghwpan y Byd yn anodd, mae tipyn yn y fantol, a fydd hon yn ddim gwahanol,” meddai.

“Mae gan Awstralia chwaraewyr dawnus, ac rydyn ni’n gwybod y byddan nhw eisiau dod allan a pherfformio’r penwythnos hwn.”

Ond dywed fod angen i Gymru chwarae’n fwy cywir a rhoi pwysau ar Awstralia er mwyn bod â gobaith o ennill y gêm.

Tim Cymru

15. L Williams, 14. L Rees Zammit, 13. G North, 12. N Tompkins, 11. J Adams, 10. D Biggar, 9. G Davies; 1. G Thomas, 2. R Elias, 3. T Francis, 4. W Rowlands, 5. A Beard, 6. A Wainwright, 7. J Morgan (capten), 8. T Faletau

Eilyddion

16. E Dee, 17. C Domachowski, 18. H Thomas, 19. D Jenkins, 20. T Basham, 21. T Williams, 22. G Anscombe, 23. R Dyer