Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi enwi cyn-gadeirydd Abertawe’n ffefryn i brynu’r clwb.

Bydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Casnewydd yn pleidleisio’r wythnos nesaf ynghylch a ddylen nhw dderbyn cynnig Huw Jenkins i fod yn brif randdeiliad.

Fe fydd e’n bresennol mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig er mwyn annerch aelodau’r Ymddiriedolaeth.

Mae un ymgeisydd arall i brynu’r clwb, sef consortiwm dan arweinyddiaeth yr Americanwr Dan Donoghue a Jon Pratt.

Huw Jenkins

Huw Jenkins, cadeirydd Abertawe, yn camu o’r neilltu

Fe gafodd ei feirniadu am ei ran yn helynt trosglwyddiadau’r clwb yn ddiweddar
Stadiwm Swansea.com

“Gwerthfawrogi” cyfraniad Huw Jenkins – ond dim diolch iddo

Perchnogion Clwb Pêl-droed Abertawe’n beirniadu’r cadeirydd yn dilyn ei ymddiswyddiad