Bydd Sue Redfern yn creu hanes yr wythnos nesaf yn y gêm rhwng Morgannwg a Swydd Derby yng Nghaerdydd, fel y dyfarnwr benywaidd cyntaf i ddyfarnu mewn gêm Bencampwriaeth.

Bydd y gêm yn dechrau ddydd Mawrth (Medi 26).

Enillodd hi 21 o gapiau dros Loegr rhwng 1995 a 1999, ac mae hi wedi creu hanes sawl gwaith eisoes fel dyfarnwr.

Ddwy flynedd yn ôl, creodd hi hanes fel y ddynes gyntaf i ddyfarnu yn un o gemau cartref Lloegr, fel pedwerydd dyfarnwr yn y gêm ugain pelawd yn erbyn Sri Lanca yng Nghaerdydd.

Yn gynharach eleni, hi hefyd oedd y ddynes gyntaf i ddyfarnu gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast, wrth ofalu am y gêm rhwng Swydd Gaerloyw a Middlesex ym Mryste.

Mae hi hefyd wedi dyfarnu yng Ngemau’r Gymanwlad, Cwpan y Byd 20 pelawd y merched dair gwaith, a Chwpan y Byd 50 pelawd y merched ddwywaith.

Hi hefyd oedd y ddynes gyntaf i lofnodi cytundeb proffesiynol llawn amser gyda Thîm Dyfarnwyr Proffesiynol Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Dywed ei bod hi “wedi gweithio’n galed i ennill y cyfle hwn”, a’i bod hi’n “edrych ymlaen at gymryd y cam nesaf” yn ei gyrfa, sydd wedi bod yn “uchelgais” ganddi ers amser hir ac sy’n cynnig “her newydd” iddi.

Ychwanega ei bod hi’n gobeithio y bydd hi’n “ysbrydoliaeth i eraill” wrth greu hanes.