Mae Cymru Republic, mudiad sy’n ymgyrchu tros Gymru weriniaethol, yn galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i gefnu ar nawdd gan y teulu brenhinol.

Maen nhw wedi sefydlu deiseb yn gwrthwynebu unrhyw ddarpar Lysgennad Brenhinol i’r Gymdeithas, ac roedd eisoes wedi denu dros 1,000 o lofnodion o fewn deuddydd.

Dywed y mudiad eu bod nhw’n credu mewn “Cymru sy’n rhydd o’r Frenhiniaeth”, a bod angen i unrhyw ddarpar lysgennad newydd “adlewyrchu’r Gymru fodern yr ydym am ei dathlu trwy ein timau pêl-droed cenedlaethol”.

Bydd yr ymgyrchwyr yn ymgasglu i godi ymwybyddiaeth o’r ddeiseb yng ngemau Cymru yn erbyn Gibraltar yn Wrecsam ar Hydref 11, ac yn erbyn Croatia yng Nghaerdydd ar Hydref 15.

Fis Rhagfyr y llynedd, roedd adroddiadau yn y wasg lle cafodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ei ddyfynnu yn dweud bod y penderfyniad ynghylch llysgennad newydd “dan adolygiad” ac nad oedd e’n awyddus i wneud unrhyw beth i achosi rhwyg nac i ddieithrio pobol.

“Dywedwyd y byddai FAW yn cymryd 2023 i benderfynu ar hyn, ond mewn cyfathrebiaeth â Cymru Republic, awgrymwyd nad oes trafodaeth o’r fath wedi digwydd nac yn digwydd,” meddai Bethan Sayed o Cymru Republic.

“Pryd fyddan nhw’n ei drafod felly?

“Nid oes gan y teulu brenhinol rôl i chwarae yn rhan o’r FAW.”

‘Dewiswch rywun sy’n angerddol dros ein cenedl’

Yn ôl Gwenno Dafydd o’r mudiad, dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddewis “rhywun sy’n angerddol dros ein cenedl”.

“Dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru wybod, os byddan nhw’n cyflwyno Llysgennad Brenhinol, y bydd hynny’n ymrannol ac yn ddieithr i lawer ohonom fel cefnogwyr ac fel Gweriniaethwyr,” meddai.

“Dewiswch rywun sy’n angerddol dros ein Cenedl, sy’n malio am hyrwyddo Pêl-droed Cymru ar lefel Ryngwladol, y gallwn fod yn falch ohono.

“Peidiwch â dewis aelod o’r teulu brenhinol.”

Dywed ei bod hi wedi anfon sawl e-bost at dîm rheoli’r Gymdeithas Bêl-droed ers diwedd mis Gorffennaf.

Wrth ymateb, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi dweud wrth Cymru Republic nad oes ganddyn nhw “unrhyw gynlluniau i drafod hyn yn fewnol”.

“Pam ddim?” meddai Gwenno Dafydd.

“Mae angen i ni wybod y byddant yn diystyru Llysgennad Brenhinol.

“Mae’n rhaid i’r nawdd brenhinol cwbl ddiangen a dieisiau hwn ddod i ben NAWR fel y bydd hyn yn sefydlu cynsail parhaol.”

Cymru – “cadarnle gweriniaethol Prydain”?

Dywed aelod arall o’r grŵp, Arfon Jones, y byddai’n “wirioneddol flin” gweld aelod arall o’r teulu brenhinol yn dod yn llysgennad.

“Ni fydd hyn yn cael ei groesawu gan gefnogwyr pêl-droed Cymru,” meddai.

Yn ôl Adam Johannes, sydd hefyd yn aelod o Cymru Republic, mai “pêl-droed yw gêm y bobol, conglfaen ein diwylliant dosbarth gweithiol democrataidd”.

“Dangosodd arolwg barn mai Cymru bellach yw cadarnle Gweriniaethol Prydain gyda mwy o wrthwynebiad i’r frenhiniaeth nag ardaloedd eraill,” meddai.

“Arwyddodd degau o filoedd ddeiseb yn gwrthwynebu teitl Tywysog Cymru.

“Rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru beidio â phenodi biliwnydd fel Llysgennad Brenhinol, ac edrych at ffigwr mwy priodol i fod yn llysgennad dros y gêm hardd yn rhan o’r democratiaeth ifanc, egalitaraidd, fodern y dymunwn i Gymru fod.

“Dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru roi proses ar waith ar gyfer trafodaeth amgen ar bwy ddylai fod yn Lysgennad, gan ymgynghori â chefnogwyr a’r gymuned bêl-droed ehangach ynghylch pwy ddylai gael y rôl, pa mor hir y dylent wasanaethu, ac yn y blaen.”