Mae Joe Allen, chwaraewr canol cae Abertawe, yn wynebu cyfnod o absenoldeb o ganlyniad i anaf gafodd e cyn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd.

Roedd disgwyl i gyn-chwaraewr canol cae Cymru chwarae yn erbyn yr Adar Gleision, ond cafodd e anaf i gesail y forddwyd wrth gynhesu cyn y gic gyntaf.

Mae e wedi gweld arbenigwr er mwyn penderfynu pa mor ddifrifol yw’r anaf.

“Mae Joe Allen yn mynd i gymryd sbel nawr,” meddai Michael Duff.

“Mae e wedi bod i weld arbenigwr, felly bydd rhaid i ni aros i weld.

“Mae dau neu dri chanlyniad posib, ac mae angen amser ar yr arbenigwr cyn i ni wneud penderfyniad.”

Mae anafiadau hefyd i Kyle Naughton, ac i Josh Key a Liam Cullen yn dilyn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn QPR neithiwr (nos Fawrth, Medi 19).