Mae’r hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell wedi marw yn y carchar yn 69 oed.

Cafodd ei garcharu am 30 o flynyddoedd yn 2018 am 50 o droseddau rhyw yn erbyn 12 o fechgyn.

Yn ystod ei yrfa, bu’n hyfforddi gyda Crewe a Manchester City ac fe ddigwyddodd y troseddau yn y 1970au, y 1980au a’r 1990au.

Ymhlith y rhai fu’n cymryd rhan yn ei sesiynau hyfforddi roedd Gary Speed, cyn-gapten Cymru, fu farw yn 2011.

Digwyddodd rhai o’r troseddau ym mharc gwyliau Butlins ym Mhwllheli.

Cafodd ei garcharu am y tro cyntaf yn 1994 am dreisio bachgen yn ystod taith bêl-droed i Fflorida, ac fe gafodd ei garcharu yng ngwledydd Prydain yn 1998, 2015, 2018 a 2020 am ragor o droseddau.

Bu farw Bennell yn y carchar yn Swydd Gaergrawnt, ac fe fydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf yn cynnal ymchwiliad.