Mae tîm rygbi Cymru wedi cipio buddugoliaeth bwynt bonws o 28-8 yn erbyn Portiwgal yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc.
Daeth y pedwerydd cais allweddol gan y chwaraewr rheng ôl Taulupe Faletau gyda symudiad ola’r gêm.
Roedd Portiwgal i lawr i 14 dyn erbyn hynny, wrth iddyn nhw gael gwybod ar y chwiban olaf fod cerdyn melyn Vincent Pinto am gic uchel ar Josh Adams bum munud cyn y chwiban olaf wedi’i uwchraddio i gerdyn coch.
Yr hanner cyntaf
Ar ôl munudau agoriadol digon nerfus i Gymru, gallai Portiwgal fod wedi sgorio’n gynnar.
Cawson nhw gic gosb pan gafodd Johnny Williams ei hun yn camsefyll, ond aeth ymgais Samuel Marques at y postyn.
Daeth y cais cyntaf ar ôl wyth munud i leddfu rhywfaint o’r pwysau, wrth i Louis Rees-Zammit groesi ar ôl cic a chwrs gyda chymorth Jac Morgan.
A hwythau’n edrych yn gynyddol gyfforddus, byddai Cymru wedi teimlo’n rhwystredig pan welodd Williams gerdyn melyn am atal pàs Portiwgal, oedd yn edrych yn greadigol bob tro gawson nhw’r bêl yn eu dwylo.
Daeth pwyntiau haeddiannol cyntaf Portiwgal ar ôl 37 munud, gyda Marques yn cicio’r triphwynt ar ôl ymgais am gôl adlam yn dilyn trosedd gan Gymru.
Fe wnaeth Cymru ymestyn eu mantais ar drothwy’r egwyl, serch hynny.
Ar ôl i Johnny Williams ollwng y bêl dros y llinell gais, daeth ail gyfle i Gymru o gic gosb gafodd ei chymryd yn gyfle, a hyrddodd y bachwr o gapten Dewi Lake drosodd am gais, a Leigh Halfpenny yn ychwanegu’r trosiad i’w gwneud hi’n 14-3 i dîm Warren Gatland.
Ail hanner
Ar ôl deg munud blêr ar ddechrau’r ail hanner, Portiwgal gafodd y cyfle cyntaf gyda chic gosb, ond gwastraffu’r cyfle wnaeth Marques unwaith eto.
Chwarter awr i mewn i’r ail hanner, fe wnaeth cyfnod o bwysau ddwyn ffrwyth i Gymru gyda chyfres o sgrymiau’n cael eu dymchwel cyn i Jac Morgan wthio drosodd am gais, a Leigh Halfpenny yn ychwanegu dau bwynt oddi ar ei droed.
Lleihaodd Portiwgal y bwlch ar ôl 63 munud pan enillon nhw’r bêl yng nghanol cae, gyda Nicolas Martins yn bylchu am gais, ond Marques yn methu’r trosiad.
Roedd Cymru’n credu eu bod nhw wedi cipio pwynt bonws ddwy funud wedi’r 80, pan greodd Rees-Zammit ofod i Gareth Davies, a hwnnw’n croesi a’r trosiad yn llwyddiannus cyn i’r dyfarnwr ganfod trosedd gan Tomas Francis.
Ond doedd hi ddim yn hir cyn i Faletau hyrddio trwy’r bwlch am y pwynt bonws hollbwysig, gyda’r eilydd Sam Costelow yn cicio’r trosiad.
Efallai nad oedd hon yn grasfa fel roedd nifer yn ei disgwyl, ond bydd Cymru’n teimlo rhyddhad o gael y pwynt bonws, gyda rhai arwyddion addawol o ran y perfformiad, nid lleiaf seren y gêm Jac Morgan.