Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd a chwmni yswiriant Miller wedi dod i gytundeb ar ôl i’r Adar Gleision ddwyn achos yn eu herbyn yn yr Uchel Lys yn dilyn marwolaeth Emiliano Sala.

Bu farw’r Archentwr fis Ionawr 2019 wrth hedfan dros y Sianel ar ôl ei drosglwyddiad o Nantes i Gaerdydd.

Dydy union delerau’r cytundeb ddim wedi’u cyhoeddi, ac mae’r clwb yn dweud y byddan nhw’n parhau’n gyfrinachol, ond fe fydd yn golygu y bydd swm o arian yn mynd i Gaerdydd.

Mae lle i gredu bod Caerdydd yn hawlio dros £10m gan honni bod cwmni Miller “wedi methu â gweithredu â’r sgiliau a’r gofal rhesymol sy’n ddisgwyliedig”.

Yn ôl Caerdydd, roedd Miller wedi methu â chyfleu’r broses o yswirio chwaraewyr newydd ac roedden nhw’n credu mai cyfrifoldeb y cwmni oedd rhoi gwybod iddyn nhw na fyddai yswiriant ar gael ar gyfer marwolaeth chwaraewr newydd hyd nes bod y polisi’n cael ei addasu.

Pe baen nhw’n gwybod, meddai perchnogion Caerdydd, bydden nhw wedi gwneud cais am yswiriant gwerth £20m ar gyfer Emiliano Sala.

Ar ben hynny, doedd y peilot David Ibbotson ddim yn gymwys i hedfan yr awyren gafodd ei threfnu’n breifat gan David Henderson, gafodd ei garcharu am ddeunaw mis yn 2021 am beryglu diogelwch yr awyren a cheisio trefnu hediad heb awdurdod.

Fis Gorffennaf eleni, derbyniodd Nantes swm o arian oedd yn ddyledus gan Gaerdydd am y trosglwyddiad yn dilyn gorchymyn gan FIFA.