Mae rheolwyr timau pêl-droed Caerdydd ac Abertawe wedi bod yn trafod y gêm ddarbi fawr dros y penwythnos.
Bydd yr Elyrch yn teithio i Stadiwm Dinas Caerdydd i herio’r Adar Gleision nos Sadwrn (Medi 16, 7.45yh).
Ar ôl ceisio tawelu’r cyffro ynghylch y gêm yn ddiweddar, mae Michael Duff, rheolwr yr Elyrch, yn dweud bod ei chwaraewyr yn ysu i wneud y ddinas a’r gymuned yn falch.
Dywedodd yn ddiweddar y byddai’n well ganddo fe ennill dyrchafiad a cholli’r ddwy gêm ddarbi nag ennill ac wedyn colli allan ar ddyrchafiad.
Hon fydd ei gêm ddarbi de Cymru gyntaf ers iddo fe gael ei benodi’n rheolwr Abertawe.
“Wrth gwrs ein bod ni eisiau ennill y ddwy gêm,” meddai.
“Mae hon yn un o’r gemau mae pawb yn gwybod amdani.
“Dw i’n dod i mewn yma o’r tu allan, ond rydych chi’n gwybod fod yna gemau [darbi] yn y Deyrnas Unedig mae pawb yn gwybod amdanyn nhw. Mae hon yn un ohonyn nhw.
“Nawr fy mod i yn yr ardal, rydych chi’n cael gwybod yn eithaf cyflym pa mor bwysig yw hi i’r ardal, i’r bobol ac i’r ddinas.
“Does dim angen i chi ddweud wrtha i am arwyddocâd y gêm.”
‘Angen gwella’
Dywed Michael Duff fod yn rhaid i’r tîm wella’r perfformiad gafwyd yn erbyn Bristol City.
“Mae’r rhain yn gemau rydych chi eisiau bod yn rhan ohonyn nhw,” meddai.
“Rydych chi’n treulio’ch bywyd yn gwylio gemau fel hon ac yn breuddwydio am gael chwarae gerbron torf lawn a sgorio’r gôl fuddugol mewn gêm ddarbi.
“Gallwch chi deimlo’r cysylltiad yma rhwng y clwb a’r bobol. Mae’n bwerus iawn.
“Mae’r bobol yma wedi bod mor groesawgar, a phan dw i’n mynd â’r ci am dro ar y traeth mae pobol yn rhoi gwybod i fi beth mae’n ei olygu.
“Dyma’r gemau rydych chi’n eu cofio yn eich gyrfa, rydych chi’n rhan fach iawn o hanes ac rydych chi eisiau cael eich cofio fel tîm sy’n llwyddo yn y gemau hyn.”
Dyrchafiad yn bwysicach nag ennill y gêm ddarbi?
Yn y cyfamser, mae Mark McGuinness, amddifynnwr Caerdydd, wedi wfftio sylwadau blaenorol Michael Duff am bwysigrwydd y gêm ddarbi.
Mae’r Elyrch wedi ennill pedair gêm ddarbi yn olynol, gan dorri record fel y tîm cyntaf erioed i ennill dwy gêm ddarbi de Cymru mewn un tymor.
Dydy Caerdydd ddim wedi ennill gêm ddarbi ers mis Mawrth 2021, ond mae’r Elyrch heb fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth hyd yn hyn y tymor hwn.
Dywed McGuinness fod y gêm ddarbi fawr “yn bwysig i bawb”, a bod sylwadau blaenorol Michael Duff am bwysigrwydd y gêm yn “anghywir”.
“Yn amlwg, mae pawb eisiau ennill dyrchafiad ond i’r cefnogwyr a’r chwaraewyr yma, mae’n golygu llawer.
“Os mai dyna ei athroniaeth, dyna ei athroniaeth, ond dw i’n siŵr na fydd cefnogwyr [Abertawe] yn hapus gyda hynny.”
Un arall sy’n deall pwysigrwydd y gêm fawr yw Erol Bulut, rheolwr Caerdydd, sydd wedi bod yn rheolwr mewn sawl gêm ddarbi ar draws y byd.
“Fel chwaraewr a rheolwr, pan ydych chi’n arwyddo i glwb ac yn chwarae gemau darbi, does dim angen eglurhad arnoch chi gan rywun arall o ran pa mor bwysig yw gêm ddarbi,” meddai.
“Pan ydych chi’n arwyddo fel hyfforddwr, dylech chi wybod sut i ymdrin â hi a sut i fynd ar y cae.
“Galla i ddweud dim ond un peth wrthych chi: ddydd Sadwrn, yn y stadiwm, ar y cae, byddwn ni’n dîm.
“Does dim angen i fi ddweud wrthyn nhw [y chwaraewyr], maen nhw’n gwybod hynny eisoes.”
Tîm Abertawe
Mae’r pedwar chwaraewr ddenodd Abertawe i’r clwb ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ar gael ar gyfer y gêm.
Ymunodd Jamal Lowe, Bashir Humphreys, Josh Tymon a Kristian Pedersen â’r clwb oriau cyn i’r ffenest gau’n glep.
Tra bod Lowe, Tymon a Pedersen wedi bod yn ymarfer gyda’r garfan, mae Humphreys newydd ddychwelyd o wersyll gyda thîm dan 21 Lloegr.
Mae amheuon am Kyle Naughton ac Azeem Abdulai, serch hynny, gyda’r ddau wedi’u hanafu.