Mae rhanbarth rygbi’r Scarlets wedi cyhoeddi’r tîm fydd yn herio’r Barbariaid ddydd Sadwrn (Medi 16, 2.30yp) mewn gêm er cof am Phil Bennett.

Bu farw cyn-faswr Llanelli, Cymru a’r Llewod yn 73 oed fis Mehefin y llynedd.

Ymhlith y wynebau newydd mae’r maswr Ioan Lloyd a’r blaenasgellwr Taine Plumtree, tra bod naw chwaraewr rhyngwladol o Gymru yn nhîm y Barbariaid.

Y tri yn y cefn yw Johnny McNicholl, Tom Rogers a Ryan Conbeer, tra bod Steff Evans allan ag anaf i linyn y gâr.

Yn arwain y tîm fydd y canolwr Jonathan Davies, fydd yn bartner i Ioan Nicholas, gyda Joe Roberts a Scott Williams allan ag anafiadau o hyd.

Kieran Hardy fydd yn chwarae yn safle’r mewnwr.

Yn y rheng flaen fydd Wyn Jones, Shaun Evans a Sam Wainwright, tra bydd Jac Price a Morgan Jones yn yr ail reng.

Yn cwblhau’r blaenwyr fydd Taine Plumtree, Dan Davis a Ben Williams.

Y tîm:

15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers, 13 Ioan Nicholas, 12 Jonathan Davies (capten), 11 Ryan Conbeer; 10 Ioan Lloyd, 9 Kieran Hardy; 1 Wyn Jones, 2 Shaun Evans, 3 Sam Wainwright, 4 Jac Price, 5 Morgan Jones, 6 Taine Plumtree, 7 Dan Davis, 8 Ben Williams

Eilyddion:

16 Lewis Morgan, 17 Kemsley Mathias, 18 Steff Thomas, 19 Harri O’Connor, 20 Ed Scragg, 21 Iwan Shenton, 22 Teddy Leatherbarrow, 23 Archie Hughes, 24 Dan Jones, 25 Eddie James, 26 Tomi Lewis