Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi bod yn fwy clir o ran pa strydoedd fydd yn cael eu heffeithio gan y polisi terfyn cyflymder o 20m.y.a., yn ôl arbenigwr ar drafnidiaeth.
Methodd pleidlais gan y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Medi 14) â rhoi stop ar y terfynau cyflymder 20 m.y.a. newydd.
Gobaith y blaid oedd y byddai Aelodau’r Senedd yn ailystyried y penderfyniad, ac o ganlyniad y byddai hynny’n atal y polisi rhag mynd yn ei flaen.
Daw hyn wedi i bôl diweddar gan ITV Cymru ddangos bod dau draean o’r cyhoedd yng Nghymru’n gwrthwynebu’r polisi.
Ond pleidleisio o blaid y terfyn wnaeth Plaid Cymru a’r Blaid Lafur, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi pleidleisio yn ei erbyn.
“Dydy o ddim wedi bod yn glir ble yn union sydd am fod yn 20m.y.a., a ble sydd yn mynd i fod yn 30m.y.a.,” meddai’r Athro Stuart Cole wrth golwg360.
“Dylai bod y Llywodraeth wedi bod yn lot fwy clir o ran ble yn union mae’r cyflymderau am fod.
“Maen nhw’n siarad yn gyffredinol, ond dydy pobol ddim yn meddwl yn gyffredinol, mae pobol yn meddwl am eu taith nhw i’r gwaith.
“Yn sicr mae’r wybodaeth mewn dogfen yn rhywle, ond dydy pobol ddim wedi edrych trwy’r rhyngrwyd i drio ffeindio rhywbeth.”
Pleidlais yn methu
Mae’r diffyg eglurder hefyd yn bryder sydd wedi’i fynegi gan Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n poeni y bydd terfynau cyflymder yn cael eu gostwng mewn rhagor o ardaloedd ledled Cymru.
“Cafodd y Dirprwy Weinidog ei herio deirgwaith yn y siambr am e-bost rwy’ wedi’i derbyn gan Gyngor Wrecsam yn mynd i’r afael â newidiadau pellach i derfynau cyflymder ar y gorwel, gyda 40m.y.a., 50m.y.a. a therfynau cyflymder cenedlaethol yn cael eu hadolygu,” meddai.
“Fodd bynnag, yn ôl y disgwyl, anwybyddodd y cwestiwn yn llwyr bob tro.”
Dywed fod hyn yn “peri cryn bryder wrth symud ymlaen”, gan gyhuddo’r Llywodraeth o fod ag “agenda wrth-weithwyr, gwrth-ffyrdd a gwrth-fodurwyr.”
“Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i newid terfynau rhagosodedig eraill,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Colli gwasanaethau cyhoeddus?
Pryder arall sydd gan y Ceidwadwyr Cymreig o ran y polisi yw effaith y newidiadau ar gwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus.
Mae colli gwasanaethau lleol oherwydd y cynnydd mewn costau ddaw yn sgil y newidiadau hefyd yn destun pryder i’r Athro Stuart Cole.
Dywed y dylai fod mwy o ffocws ar osod y terfynau ar strydoedd mewn ardaloedd preswyl, er enghraifft, ac nid ar ffyrdd mae cwmnïau’n ddibynnol arnyn nhw.
“Bydd costau cwmnïau bysiau, costau cwmnïau nwy a chostau cwmnïau bwyd yn codi,” meddai.
“Dydyn nhw [Llywodraeth Cymru] ddim wedi meddwl yn llawn am yr effaith ar y cwmnïau sy’n rhoi gwasanaethau i bobol.
“Mae rhai cwmnïau wedi dweud y bydd yn rhaid tynnu allan o wasanaethau lleol os dydy’r Llywodraeth ddim yn rhoi mwy o gymhorthdal.
“Ond does dim yr arian, felly bydden ni’n colli gwasanaethau.
“Dydy o ddim yn edrych fel eu bod nhw wedi meddwl am bethau fel gwasanaethau bysus.”
Bydd y newidiadau’n dod i rym ddydd Sul (Medi 17).