Mae dau leoliad wedi’u dewis fel opsiynau posib ar gyfer ysbyty newydd yn y de-orllewin, yn dilyn cyfarfod o Fwrdd Iechyd Hywel Dda heddiw (dydd Iau, Medi 14).
Bydd yr ysbyty naill ai’n cael ei adeiladu yn Sanclêr neu yn Hendy-gwyn ar Daf.
Dyma’r ddau ddaeth i frig rhestr fer o dri lleoliad gafodd eu dewis fis Chwefror, gyda’r trydydd safle – Spring Gardens, sydd hefyd yn agos i leoliad Hendy-gwyn – yn cael ei roi o’r neilltu.
Mewn ymgynghoriad cyhoeddus, roedd 59% yn credu bod Hendy-gwyn yn ddewis gwael ar gyfer yr ysbyty, tra bod 49% yn dweud yr un fath am safle Sanclêr.
Serch hynny, dywed Maria Battle, cadeirydd y bwrdd, eu bod nhw wedi “casglu llawer iawn o dystiolaeth fanwl” cyn penderfynu ar y lleoliadau.
Angen “ar frys”
Does dim disgwyl y bydd yr ysbyty’n cael ei adeiladu tan o leiaf 2029, a bydd y datblygiad yn rhan o gynllun ailwampio iechyd gwerth £1.3bn.
Fodd bynnag, fyddai’r un safle ddim yn cael ei brynu pe na bai cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Ond dywed Maria Battle fod angen cyflymu’r broses ar ôl cael hyd i goncrit RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
“Nid yw erioed wedi bod yn fwy o fater brys fod gennym ni ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru,” meddai.
Yn ystod y cyfarfod, aeth hi ati i gyfiawnhau’r lleoliadau gafodd eu dewis.
“Safle Sanclêr sydd â’r gefnogaeth gyhoeddus fwyaf, er bod yna wahaniaethau yn yr ymateb yn ôl lle roedd pobol yn byw,” meddai
Dywed mai dyma’r safle gorau er mwyn gallu “recriwtio a chadw staff ac sydd â’r lleiaf o risg clinigol”.
“Tŷ Newydd yn Hendy-gwyn sydd â’r perygl technegol a masnachol isaf,” meddai.
“Ond mae ganddo’r gefnogaeth isaf gan y cyhoedd.
“Dyma’r safle mwyaf o ran gallu ehangu, ac mae e agosaf i’r orsaf drenau.
“O ystyried yr holl dystiolaeth, dw i’n awgrymu ein bod ni’n ystyried safleoedd Tŷ Newydd yn Hendy-gwyn a safle Sanclêr.”