Mae datganoli’n ganolog i’r ymdrechion i gyflawni sero net ledled y Deyrnas Unedig erbyn 2050, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Archwilwyr Cyffredinol pedair gwlad y Deyrnas Unedig sydd wedi llunio’r adroddiad Dulliau o gyflawni sero net ledled y Deyrnas Unedig ar y cyd, gan ddweud y bydd cydweithio rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig yn allweddol i gyrraedd y nod.

Mae’r adroddiad yn nodi deddfwriaeth, polisi, strategaeth, llywodraethu a threfniadau monitro llywodraethau’r Deyrnas Unedig a datganoledig sy’n berthnasol ar gyfer cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net.

Wrth gydweithio, bydd modd ystyried gwahanol dargedau, cyllidebau carbon a pholisïau sero net ar draws y gwledydd, medd yr adroddiad.

Cyflenwad ynni sy’n cyfrannu fwyaf at allyriadau yng Nghymru, tra mai trafnidiaeth yw’r sector allyrru mwyaf yn Lloegr a’r Alban ar hyn o bryd, ac amaethyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon.

Gan fod blaenoriaethau gwahanol ar waith yn y pedair gwlad, mae dull pwrpasol o ddatgarboneiddio wedi’i fabwysiadu, gan gynnwys trwy gyfuniadau gwahanol o dargedau a pholisïau allyriadau, gyda threfniadau amrywiol ar gyfer sectorau penodol.

Cydweithredu ar lefel y Deyrnas Unedig

Er bod gan y pedair gwlad eu dulliau gwahanol o ddatgarboneiddio, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio i’r ddau gyfeiriad ar lefel y Deyrnas Unedig er budd y gwledydd unigol hefyd.

Dywed yr adroddiad ei bod hi’n bwysig fod y dewisiadau sy’n cael eu gwneud yn unigol a gyda’i gilydd “yn darparu llwybr effeithiol i gyrraedd targedau sero net y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’r rhai a osodir ar lefel ddatganoledig”.

Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau gwerth am arian ar wariant sero net, medd yr adroddiad.

“Er enghraifft, bydd polisi ledled y Deyrnas Unedig yn hanfodol wrth ddiffinio llwybrau tuag at ddatgarboneiddio gwresogi mewn adeiladau, ond bydd angen ategu hyn drwy weithredu ar lefel ddatganoledig ar faterion gan gynnwys cynllunio a gwella effeithlonrwydd ynni.

“Mae cyd-ddibyniaethau yn codi ymhellach drwy benderfyniadau ariannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, o ystyried eu bod yn effeithio ar argaeledd arian yn y gweinyddiaethau datganoledig.”