Mae adroddiadau y bydd miloedd o swyddi’n cael eu colli ar safle gweithfeydd dur Tata Steel ym Mhort Talbot heddiw (dydd Gwener, Medi 15).
Mae hyn oherwydd cynlluniau’r cwmni i ddatgarboneiddio’u safleoedd, a’r disgwyl yw y bydd cytundeb gwerth £500m yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth San Steffan er mwyn gwneud hynny.
Mae undebau’n pryderu y bydd tua 3,000 o swyddi’n cael eu colli oherwydd y penderfyniad, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw ar y safle ym Mhort Talbot.
Mae disgwyl y bydd Llywodraeth San Steffan yn dweud mai bwriad y cytundeb yw sicrhau dyfodol y safle, sy’n cyflogi tua 4,000 allan o 8,000 o staff Tata.
Daw hyn wedi i’r cwmni rybuddio yn flaenorol y byddai eu dyfodol hirdymor yn y fantol pe na bai’r Llywodraeth yn darparu cyllid iddyn nhw allu symud at ddulliau llai carbon-ddwys.
Yn ôl undebau, roedden nhw wedi cael eu cau allan o’r trafodaethau am y cytundeb.
Dywed Charlotte Brumpton-Childs, swyddog cenedlaethol undeb GMB, ei bod yn “hen bryd i’r llywodraeth ymyrryd yn y diwydiant dur”.
Er hynny, dywed fod “gorfodi rhaglen heb ymgynghori â gweithwyr yn annerbyniol”.
“Nid yw’n drawsnewidiad teg os caiff miloedd o swyddi eu haberthu yn enw enillion amgylcheddol tymor byr,” meddai.
“Rydym yn llwyr gefnogi’r symudiad i foderneiddio a datgarboneiddio’r diwydiant; mewn gwirionedd rydym wedi ceisio’r math hwn o fuddsoddiad ers blynyddoedd.”
Brwydro i amddiffyn swyddi
Dywed Alun Davies, swyddog cenedlaethol undeb Community, fod y gymuned yn barod i frwydro dros amddiffyn swyddi’r gweithwyr.
“Rhaid cynnal ymgynghoriad llawn ac ystyrlon ar yr holl opsiynau i ddatgarboneiddio’r broses o wneud dur a sicrhau dyfodol pob ffatri yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Bydd y gymuned yn gwneud popeth o fewn ei phwerau i gefnogi ein haelodau ac amddiffyn eu swyddi.”
Daw’r newyddion yn dilyn cryn ansicrwydd i weithwyr Tata Steel dros y blynyddoedd.
Y llynedd, bu i’r cwmni fygwth cau’n gyfangwbl pe na bai’n derbyn buddsoddiad o £1.5bn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Tata Steel wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers rhai misoedd bellach, ac wedi dweud yn flaenorol eu bod yn barod i drafod yr opsiynau posib gyda gweithwyr ac undebau.