Mae undeb GMB yn dweud ei bod hi’n “annerbyniol” fod cwmni dur Tata Steel wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb yn wybod iddyn nhw.

Er eu bod nhw’n dweud y bu “hir ymaros am ymyrraeth”, maen nhw wedi mynegi eu hanfodlonrwydd ynghylch yr adroddiadau bod rhaglen gymorth wedi’i chyflwyno heb ymgynghori â gweithwyr.

Mae lle i gredu y gallai’r trafodaethau, all fod yn werth £500m i £600m wrth drosi ffwrneisi o fod yn rhai glo i drydan carbon-sero, arwain at golli miloedd o swyddi, gan gynnwys rhai ar y safle ym Mhort Talbot.

Gallai’r buddsoddiad cyflawn fod yn werth £1.2bn o gynnwys buddsoddiad y cwmni, ond fe allai olygu bod hyd at 3,000 o swyddi’n cael eu colli.

Yn ôl cyfrifon ariannol diweddara’r cwmni, fe wnaethon nhw golledion o £674m ar ôl treth dros y flwyddyn hyd at Fawrth 31 – £279m oedd maint y golled cyn treth.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd llai o ddur hylifol ei gynhyrchu o gymharu â’r flwyddyn gynt yn sgil llai o alw ar draws y byd.

Ymateb undebau

Yn ôl yr undeb Community, byddai unrhyw gytundeb heb ymgynghori â gweithwyr yn torri addewidion gafodd eu gwneud gan Tata.

Dywed Roy Rickhuss fod yr undeb wedi cael sicrwydd y byddai “ymgynghoriadau ystyrlon” yn cael eu cynnal ond fod yr adroddiadau diweddara’n “niweidio perthnasau diwydiannol ar draws y busnes”.

Mae undeb GMB hefyd wedi mynegi eu hanfodlonrwydd.

“Fe fu hir ymaros am ymrraeth gan y Llywodraeth yn y diwydiant dur, ond mae gorfodi rhaglen heb ymgynghoriad go iawn â gweithwyr yn annerbyniol,” meddai’r Swyddog Cenedlaethol Charlotte Brumpton-Childs.

“Mae GMB wedi annog gweinidogion a Tata Steel i gael gweledigaeth fwy hirdymor ar ddatgarboneiddio dur.

“Dydy hi ddim jyst yn symudiad os caiff miloedd o swyddi eu haberthu yn enw datgarboneiddio rhad.

“Rydyn ni’n cefnogi’n llwyr y symudiad i foderneiddio a datgarboneiddio’r diwydiant; mewn gwirionedd, rydyn ni wedi bod yn ceisio’r math yma o fuddsoddiad ers blynyddoedd.

“Ond bydd anwybyddu technolegau y tu allan i Ffwrneisi Arc Trydanol yn golygu y bydd degau o filoedd o bobol yn colli eu bywoliaeth.”