Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Bartneriaeth Gymdeithasol yn dweud ei fod e wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Pobol Hŷn ynglŷn â’r rhwystrau mae pobol oedrannus yn eu hwynebu wrth deithio ar fysiau.
Cododd y drafodaeth mewn dadl yn y Senedd heddiw (Medi 13), a mynegodd Joel James ei fod yn bryderus am yr heriau mae pobol hŷn yn eu hwynebu.
“Mae aros yn symudol wrth i ni heneiddio yn hynod bwysig nid yn unig ar gyfer atal arwahanrwydd ac unigrwydd ond hefyd i helpu i gynnal ffitrwydd a gweithrediad gwybyddol,” meddai.
Er ei fod yn cydnabod fod tocynnau bws am ddim i bobol hŷn yn gam cadarnhaol er mwyn sicrhau annibyniaeth i bobol hŷn, mae’n credu bod angen gwneud mwy i hwyluso’r profiad ar eu cyfer.
“Mae astudiaethau wedi dangos bod nifer sylweddol o heriau i bobol hŷn sy’n defnyddio’r bws gan gynnwys mwy o debygolrwydd o gwympo wrth fynd ymlaen ac oddi arno, neu pan fydd y bws yn symud cyn iddyn nhw ddod o hyd i sedd,” meddai.
“Mae hyn yn arwain nid yn unig at anaf, ond hefyd at bryder, ofn a cholli hunanhyder wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”
Gwrando ar y lleisiau
Yn ystod y ddadl, gofynnodd i’r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn pa gamau sy’n cael eu cymryd i weithio gyda’r Comisiynydd Pobol Hŷn, elusennau anabledd a gweithredwyr bysiau i leihau heriau pobol hŷn wrth ddefnyddio’r bws.
“Rwyf i a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt yn gweithio’n agos iawn gyda phob un o’r tri chomisiynydd, ac mae gwaith hefyd ar y gweill ar wahanol fforymau pobol hŷn o ran cael eu barn fyw, mewn gwirionedd, o ran yr hyn y gallwn ei wneud i adeiladu ar hynny a’i wella,” meddai Hannah Blythyn.
“A byddwn yn gobeithio, gan ddefnyddio ein dull partneriaeth ar draws y Llywodraeth pan fyddwn yn edrych ar y Bil bysiau, ein bod yn gwneud yn siŵr bod y lleisiau hynny’n cael eu clywed fel rhan o hynny, ac yn gwneud yn siŵr pan fyddwn yn creu gwasanaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol fod profiadau pobl yn y gymuned, o wahanol oedrannau, gwahanol amrywiaethau a chefndiroedd gwahanol, i gyd yn rhan o hynny.”
Fodd bynnag, dywed Joel James nad yw’n fodlon â’r ymateb a’i fod am ofyn am gymorth i gyflwyno newid gan y Comisiynydd Pobol Hŷn.
“O ganlyniad i ateb siomedig y Gweinidog, rwy’n ysgrifennu at y Comisiynydd Pobl Hŷn i ofyn am gymorth i gyflwyno newid a mynd i’r afael â’r pryderon niferus sy’n wynebu ein poblogaeth oedrannus,” meddai.