Mae’n annhebygol y byddai dynes wedi cael ataliad ar y galon pe bai hi wedi derbyn gofal addas ar ôl cael tynnu ei phendics, yn ôl ymchwiliad.
Lansiodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwiliad ar ôl i ŵr ‘Mrs B’ gwyno bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi methu â rhoi triniaeth addas ac amserol iddi.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad eu bod nhw wedi methu â darparu’r gofal disgwyliedig iddi ar ôl y llawdriniaeth i dynnu’r pendics, a’u bod nhw wedi methu â gweld pam ei bod hi’n cael trafferthion anadlu.
Fe wnaethon nhw hefyd fethu ag adnabod yr arwyddion fod cyflwr ‘Mrs B’ yn gwaethygu, na chymryd camau addas.
Mae’n debyg na fyddai hi wedi cael ataliad ar y galon nac y byddai hi wedi gorfod aros cyhyd yn yr Uned Gofal Dwys pe bai hi wedi derbyn gofal priodol, meddai.
Dywed yr Ombwdsmon Michelle Morris fod ganddi bryderon bod y digwyddiadau wedi cael effaith “sylweddol” ar lesiant meddyliol a chorfforol ‘Mrs B’.
Cafodd ei gadael â phroblemau iechyd a symudedd na fyddai wedi disgwyl eu hwynebu yn ei 50au, ac a allai gyfyngu ar ansawdd ei bywyd am flynyddoedd.
Dywed hefyd ei bod yn credu bod ei gŵr wedi dioddef anghyfiawnder “sylweddol” drwy’r trallod ddioddefodd tra’r oedd ei wraig yn yr ysbyty, ac wedyn.
‘Anghyfiawnder difrifol’
Yn ystod yr ymchwiliad, cododd pryderon fod y bwrdd iechyd wedi methu â threfnu triniaeth addas i ‘Mrs B’ ar ôl iddi gael sgan ym mis Medi 2017.
O ganlyniad, fe wnaeth yr Ombwdsmon ymestyn yr ymchwiliad a chanfod y dylai’r bwrdd iechyd fod wedi trefnu tynnu pendics ‘Mrs B’ o ganlyniad i’r sgan gafodd hi, yn hytrach na gadael i’w chyflwr ddirywio tan 2019.
“Doedd Mr na Mrs B yn gwybod dim am ganfyddiadau’r colonograffi gafodd eu methu [yn 2017], a chafodd y broblem mo’i hadnabod yn ystod ymchwiliad y bwrdd iechyd i’r gwyn,” meddai Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
“Pe na bai fy swyddfa wedi dechrau ‘ymchwiliad ar ei liwt ei hun’ er mwyn ystyried hyn, fyddai’r methiant sylweddol hwn arweiniodd at anghyfiawnder difrifol i Mr a Mrs B heb ddod i’r amlwg.”
Mae’r Ombwdsmon wedi argymell bod y bwrdd iechyd yn ymddiheuro wrth y ddau, ac yn talu £10,000 iddyn nhw er mwyn adlewyrchu’r anghyfiawnderau.
Dywed hefyd y dylid rhannu’r adroddiad gyda’r ymgynghorwyr fel eu bod nhw’n gallu myfyrio arno, a’i bod hi’n falch o nodi bod y bwrdd, yn eu sylwadau drafft i’r adroddiad, wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.