Mae Darren Millar, llefarydd gogledd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud ei fod yn ei chael hi’n “frawychus” mai newydd ddarganfod y broblem o ran concrid mewn hen adeiladau mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Conwy.
Daeth cadarnhad ddoe (dydd Iau, Medi 14) fod concrid RAAC wedi’i ganfod mewn ysgol gynradd yng Nghonwy.
Dyma’r drydedd ysgol yng Nghymru sydd wedi gorfod cau ei drysau tros bryderon diogelwch, a bydd yr ysgol ar gau am weddill yr wythnos.
Yn ôl Darren Millar, y Gweinidog Addysg Jeremy Miles roddodd wybod iddo am y sefyllfa yn yr ysgol gynradd.
Dywed ei fod wedi cysylltu â’r Cyngor Sir er mwyn gofyn am eu cynlluniau, ond y byddai wedi hoffi pe bai’r awdurdod lleol wedi cymryd y blaen a’i ddiweddaru ar y sefyllfa.
“Roeddwn i’n hynod bryderus o glywed gan y Gweinidog Addysg fod RAAC wedi’i nodi mewn ysgol yn fy etholaeth, byddwn wedi gobeithio bod wedi cael gwybod am hyn gan yr awdurdod lleol yn gyntaf,” meddai.
“Yn ddealladwy, bydd rhieni’n bryderus iawn ac mae’n bwysig bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw.
“Mae angen i ni gael y disgyblion hyn yn ôl i ystafelloedd dosbarth diogel cyn gynted â phosibl gan darfu cyn lleied â phosibl ar eu haddysg.
“Dylai Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod wedi bod ar ben hyn ac rwy’n ei chael hi’n frawychus mai dim ond newydd ddarganfod y broblem maen nhw.”
‘Cam rhagofalus’
Yn ôl y Cyngor, roedd y sefyllfa’n un oedd wedi datblygu’n gyflym yn ystod y dydd ac oherwydd hynny, mai diweddaru rhieni oedd eu blaenoriaeth.
Dywed Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “siomedig” o glywed bod ysgol arall wedi cau.
“Rwy’n gobeithio bod cynllun brys yn cael ei roi ar waith i sicrhau bod addysg dysgwyr yn parhau, a bod cyfathrebu a chymorth i ddisgyblion a rhieni yn cael eu rhoi ar waith,” meddai.
“Yn anffodus, dw i ddim yn meddwl mai hon fydd yr ysgol olaf i gael ei rhoi yn y sefyllfa hon.”
Dywed ei bod hi’n “synnu” nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau yn gynharach i wirio adeiladau cyhoeddus am RAAC.
“Gallan nhw feio Llywodraeth y Deyrnas Unedig faint bynnag maen nhw eisiau, ond y gwir amdani yw fod Llafur yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd yn ysbytai Cymru o ran RAAC, a doedden nhw ddim yn ddigon rhagweithiol.”
Ymateb
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, dim ond cam rhagofalus yw cau’r ysgol, ac mae’r perygl yn ymddangos yn isel.
“Mae dangosyddion cynnar yn nodi bod y deunydd mewn cyflwr da; fodd bynnag, rydym yn bod yn ofalus, a byddwn yn cau’r ysgol am weddill yr wythnos fel mesur rhagofalus tra bydd y peirianwyr strwythurol yn cynnal ymchwiliadau pellach,” meddai.
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod yn gweithio i reoli RAAC ers pum mlynedd bellach.
“Rydym wedi bod yn gweithio gyda holl lywodraethau’r Deyrnas Unedig ar reoli RAAC ers 2018.
“Tan yn ddiweddar, roedd pob llywodraeth yn ystyried bod y canllawiau ar gyfer rheoli RAAC yn gadarn,” meddai.
“Ychydig wythnosau yn ôl, cyhoeddodd Adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig asesiad risg wedi’i ddiweddaru ar RAAC mewn lleoliadau addysgol.
“Ni chafodd y dystiolaeth oedd yn sail i hyn ei rhannu gyda ni tan y noson cyn dechrau’r tymor.
“Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i asesu presenoldeb RAAC mewn ysgolion.
“Hyd yma, mae RAAC wedi cael ei adnabod mewn pedair ysgol yng Nghymru.
“O’r rheini, mae dwy bellach ar agor i ddisgyblion ac mae dwy ar gau dros dro er mwyn gallu cynnal ymchwiliadau pellach.
“Ym mhob ysgol, mae dysgwyr yn cael eu cefnogi fel bod cyn lleied o effaith â phosibl ar eu haddysg.”