Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ei chael hi’n anodd recriwtio siaradwyr Cymraeg, yn ôl eu prif weithredwr.
Yn ystod cyfarfod o bwyllgor craffu Perfformiad a Throsolwg Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddydd Iau (Medi 14), trafododd cynghorwyr yr heriau o geisio cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol fod y Gymraeg yn cael ei thrin yr un fath â Saesneg.
Aeth adroddiad sy’n dangos y polisi newydd i wella’r defnydd o’r Gymraeg o fewn gweithlu’r Cyngor gerbron cynghorwyr.
Gwasanaeth ffôn yn Gymraeg
Roedd y methiant cychwynnol yn ymwneud â darparu gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg.
“Dw i’n deall mai gwaith ar y gweill yw hwn, ond pa mor realistig yw hi ein bod ni’n ateb yr holl rwymedigaethau statudol hyn?” meddai’r Cynghorydd Tommy Smith.
Ychwanegodd ei fod e wedi siarad â rhywun yn ei etholaeth yn ddiweddar oedd wedi tynnu sylw at y broblem â’r llinell ffôn.
Roedden nhw eisiau siarad â rhywun yn Gymraeg yn y Cyngor, cawson nhw eu dal ar y llinell, a phan gafodd yr alwad ei hateb yn y pen draw, yn Saesneg ddigwyddodd hynny.
“Pan ddywedon nhw eu bod nhw eisiau siarad â rhywun yn Gymraeg, cawson nhw wybod y bydden nhw’n gorfod dal y lein tra eu bod nhw’n dod o hyd i rywun i siarad â nhw,” meddai’r Cynghorydd Tommy Smith.
“Nid beirniadaeth yw hynny, ond adborth gan gwsmer.”
‘Eithriadol o anodd’
“Mae gennym ni oddeutu 20 i 30 o staff sy’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl, sydd wedi’u gwasgaru ar draws y Cyngor mewn gwahanol adrannau,” meddai Damian McCann, y prif weithredwr dros dro.
“Yr hyn mae’r ganolfan alwadau’n ceisio’i wneud yw dod o hyd i rywun sydd ar gael sy’n gallu derbyn yr alwad honno yn Gymraeg.
“Yr anhawster a’r her sydd gennym yw mai dim ond 7% o’n poblogaeth sy’n siarad Cymraeg.
“Rydyn ni wedi ceisio recriwtio siaradwyr Cymraeg i’r ganolfan alwadau ers sawl blwyddyn, ond mae hynny’n eithriadol o anodd, a dydyn ni ddim wedi bod yn llwyddiannus.
“Dw i’n siŵr y bydd y rheiny sy’n gallu siarad yn ddwyieithog yn gallu dod o hyd i waith sy’n talu’n well o lawer na’r hyn rydyn ni’n ei ddarparu yn ein canolfan alwadau.
“Rydyn ni wir yn ei chael hi’n anodd – mae bodloni’r Safonau wedi bod yn her i ni ac awdurdodau eraill Gwent oherwydd nifer y siaradwyr Cymraeg sydd gennym ni yn yr ardal.”
Beth sy’n cael ei wneud i ddatrys y sefyllfa?
Ychwanegodd fod pethau’n cael eu gwneud er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, gan ddechrau gydag addysg ac ysgolion, ond y byddai’n cymryd “degawd neu ddau” cyn y bydd Blaenau Gwent mewn sefyllfa gryfach i weithredu’r Safonau.
“Dw i’n falch fod hyn yn cael ei gymryd o ddifrif,” meddai’r Cynghorydd Julie Holt, sy’n dysgu Cymraeg.
“Mae hyn yn rhwymedigaeth statudol, ac mae’r pwyllgor hwn yn ceisio sicrwydd fod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir trwy’r cynllun gweithredu, gan ei fod yn fater sy’n ymwneud ag enw da’r Cyngor hefyd,” meddai’r Cynghorydd Joanne Wilkins, cadeirydd y pwyllgor.
“Mae angen y sicrwydd hynny arnom; dw i’n credu y bydd angen adroddiad cynnydd ar hwn arnom gan ei fod yn bwysig iawn.”
Bydd y Cynllun Gweithredu a’r polisi Cymraeg yn y Gweithle yn cael eu trafod yng nghyfarfod y Cabinet fis nesaf.
Diben y Safonau yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus megis Cyngor Blaenau Gwent yn cydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol i beidio trin y Gymraeg “yn llai ffafriol” na’r Saesneg.