Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi hyd at £500m yn safle gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Yn ôl datganiad gan y cwmni, byddan nhw’n ymgynghori â gweithwyr ynghylch ”ailstrwythuro dwfn posibl”.
Mae disgwyl bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i osod ffwrneisi arc trydan newydd ar gyfer gwneud dur ar y safle.
Pryder undebau yw y bydd y ffwrnesi hyn, sy’n llai llafur-ddwys, yn arwain at golli swyddi.
Does dim manylion wedi’u cyhoeddi gan Tata Steel eto ynghylch nifer y swyddi sy’n debygol o gael eu colli.
Dywed N Chandrasekaran, cadeirydd grŵp Tata Steel, fod y cytundeb yn “foment sy’n diffinio dyfodol y diwydiant dur”.
“Mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda Llywodraeth Ei Fawrhydi a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig a’r Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak i ddatblygu’r llwybr pontio arfaethedig ar gyfer dyfodol gwneud dur cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cadw cyflogaeth sylweddol ac yn gyfle gwych i ddatblygu ecosystem ddiwydiannol werdd yn seiliedig ar dechnoleg yn ne Cymru.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n rhanddeiliaid ar y cynigion hyn mewn modd cyfrifol.”
Maen nhw’n rhagweld y bydd y rhaglen yn weithredol a’r ffwrneisi wedi’u gosod o fewn tair blynedd.
‘Effaith ddinistriol’
Ond mae baner sy’n dwyn y geiriau ‘Prydain, rydym angen ein dur’ wedi’i gosod tu allan i’r safle ym Mhort Talbot.
Dywed Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, na ddylai datgarboneiddio fod ar draul y gweithwyr.
“Bydd y colledion swyddi posibl yn ffatri Tata ym Mhort Talbot yn cael effaith ddinistriol, nid yn unig ar bobol Port Talbot a’i chymunedau cyfagos, ond ar yr economi leol a chenedlaethol,” meddai mewn datganiad ar y cyd â Sioned Williams, un arall o Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd.
“Mae ein hundod gyda’r gweithwyr ar hyn o bryd ac rydym yn barod i gefnogi’r rhai sydd ei angen.
“Mae wir yn bosibl cael diwydiant dur cystadleuol yma yng Nghymru gyda chyfradd allyriadau carbon sylweddol is.
“Ond mae angen i Tata a llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ddangos eu bod o ddifrif ynglŷn â chwrdd â’r her hon yn uniongyrchol.
“Yn wyneb y fargen a gafwyd rhwng TATA a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yr hyn sy’n warthus yw’r diffyg cyfathrebu â Llywodraeth Cymru â’r gweithlu.
“Yr hyn y mae gweithwyr yn ei wynebu, fel yr amlygwyd gan GMB a Community, yw rhaglen lleihau’r gweithlu a orfodir arnynt heb ymgynghori sy’n gwbl annerbyniol ac yn gwbl amharchus i weithlu sydd wedi rhoi popeth i’r ffatri.”
‘Sicrhau swyddi hir dymor.
Fodd bynnag, mae Paul Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, yn croesawu’r buddsoddiad.
“Mae ein meddyliau gyda’r gweithwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn dilyn y cyhoeddiad heddiw,” meddai.
“Bydd cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sicrhau swyddi yn y tymor hir i sicrhau bod cynhyrchu dur yn parhau ym Mhort Talbot drwy fuddsoddi £500m er mwyn moderneiddio a diogelu cynhyrchu dur yn yr ardal.
“Heb fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, byddai mwy o risg i swyddi a chynhyrchu dur mewn ardal sy’n dibynnu ar y diwydiant.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda Tata a’r gweithwyr ers blynyddoedd lawer i ddiogelu dyfodol hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru ac yr ydym wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu’r buddsoddiad sydd ei angen, i gefnogi’r dulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru, mewn datganiad.
“Heddiw, cyhoeddodd Tata Steel a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gytundeb ar y cyd, i fuddsoddi mewn ffwrnais arc trydan arloesol ar gyfer creu dur ar safle Port Talbot, gyda buddsoddiad cyfalaf o £1.25bn yn cynnwys grant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd at £500m.
“Bydd y trawsnewidiad yn cynnwys ailstrwythuro busnes presennol Tata Steel yn y Deyrnas Unedig, ac i’w ddilyn gyda buddsoddiad mewn technoleg arc trydan, a fydd yn lleihau allyriadau uniongyrchol safle Port Talbot o 50m tunnell dros ddegawd.
“Fodd bynnag, mae llawer yn parhau i fod yn anhysbys am y cytundeb a’r effaith bosibl, nid yn unig ar y gweithwyr a’r cwmni, ond ar y gadwyn gyflenwi ehangach a’r economi leol.
“Felly, er bod y cyhoeddiad heddiw yn cynnwys buddsoddiad sylweddol ar gyfer y tymor hirach, mae’n anochel bod gweithwyr Tata, a’u teuluoedd, yn briodol, yn canolbwyntio ar yr effaith y caiff hyn ar y miloedd o swyddi ym Mhort Talbot a’u cyfleusterau i lawr yr afon.
“Bu heddiw yn ddiwrnod anodd i bawb sydd wedi eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn, ac mae’n dod ag ansicrwydd mawr i’r gymuned gyfan.
“Mae hi’n arbennig o siomedig nad oedd yr undebau na Llywodraeth Cymru yn rhan o’r trafodaethau a arweiniodd at y cyhoeddiad hwn.
“Mae hi nawr yn hanfodol fod Tata yn cynnal trafodaethau cynhwysfawr gyda’r gweithwyr ac eu hundebau llafur, am eu cynigion.
“Fel y nodwyd gan Tata Steel, mae’r cytundeb yn amodol ar gymeradwyaeth rheoleiddiol perthnasol, prosesau gwybodaeth ac ymgynghori, ac ar gwblhau telerau ac amodau manwl.
“Mae llawer angen ei ysytried a bydd angen i bawb nawr ystyried y cyhoeddiad a’r amserlen arfaethedig yn fanwl
“Bydd y penderfyniad mae Tata Steel yn ei wneud, yn enwedig ar natur ac amserlen y daith Datgarboneiddio, yn cael effaith ddofn ar y holl gadwyn gyflenwi a’r rhanbarth ehangach.
“Am y rheswm hwn, rwyf wastad yn ystyried dyfodol Tata yn ei gyfanrwydd o fewn ymdrech ehangach i gefnogi diwydiant Cymru ac i ddatblygu ein Sylfaen gweithgynhyrchu yn hytrach nag ar ei ben ei hun, wrth edrych ar ymateb i net sero.
“Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwys a phwyslais enfawr ar bontio cyfiawn yn ein symudiad i economi sero net. Bydd yr economi yn newid, ond os caiff hyn ei gynllunio’n dda, gallwn fanteisio ar gyfleoedd newydd a lleihau colli swyddi gorfodol.”
Dywed y bydd yn cyfarfod â Tata unwaith eto yr wythnos nesaf i drafod y sefyllfa, ac y bydd Llywodraeth Cymru’n “parhau i weithio’n agos gyda’r undebau llafur a’r cwmni i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau colli swyddi”.