Yn dilyn y cam “hanesyddol” o wrthod cynnig ar gyfer safle glo brig Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin, dywed cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear ei bod hi’n gobeithio mai rhywbeth sy’n perthyn i hanes Cymru fydd glo o hyn ymlaen.
Er bod Haf Elgar yn cydnabod ei bwysigrwydd fel rhan o dreftadaeth Cymru, mae hi’n credu bod angen canolbwyntio ar ffynonellau ynni gwyrdd wrth symud ymlaen.
Mae hi’n gobeithio ymhen ychydig fisoedd bydd glo brig yn aros fel rhywbeth hanesyddol a ddim yn cael ei gario i mewn i ddyfodol y genedl.
“Mae eisiau i ni gydnabod fod glo yn rhan bwysig o’n hanes ni a’n treftadaeth ni yng Nghymru, ond dydyn ni ddim yn gweld bod ganddo fo le yn ein dyfodol ni,” meddai wrth golwg360.
“Mae eisiau i ni edrych tuag at ddyfodol gwyrdd a glan a llewyrchus ac iachus mewn cymunedau ledled Cymru yn lle hynny.
“Mae hyn wrth gwrs yn dod dim ond ychydig o fisoedd ar ôl i gynghorwyr ym Merthyr Tydfil wrthod y cais am Ffos-y-Fran,” meddai.
“Wrth gwrs, mae dal i fod problemau yn fanno gyda’r cloddio yn parhau, er nad oes caniatâd gyda nhw.
“Ond maen nhw nawr wedi dweud y byddan nhw’n gorffen erbyn Tachwedd, felly gobeithio wedyn mai dyma fydd diwedd glo brig o leiaf yng Nghymru.”
“Moment hanesyddol”
Dywed ei bod hi’n “falch iawn ac yn ddiolchgar iawn” wedi i Gyngor Sir Caerfyrddin bleidleisio yn erbyn pwll glo brig yn dilyn cyfarfod cynllunio.
“Mae e yn teimlo fel moment hanesyddol, achos dyma oedd y cais glo brig olaf yng Nghymru,” meddai.
“Felly nawr ei fod o wedi cael ei wrthod, gobeithio ein bod ni nawr yn gweld diwedd oes glo brig yng Nghymru.”
Ond dywed fod argyfwng tanwydd yn parhau i wynebu Cymru, a bod angen gweithio ar ddatrysiadau cynaliadwy i’r broblem.
“Mae angen i ni adeiladu lan opsiynau ynni sydd ddim yn ddibynnol ar danwyddau ffosil,” meddai.
“Mae gennym ni argyfwng ynni ac mae tlodi tanwydd yn broblem enfawr yn effeithio cymunedau ar draws Cymru ac yn mynd i fod yn broblem eto’r gaeaf yma.
“Felly mae nifer o bethau sydd angen eu gwneud eto i wella effeithlonrwydd ynni ac i symud tuag at ddatblygu amryw eang o ffynonellau ynni adnewyddadwy yng Nghymru.”
‘Argyfwng natur’
Bu tua 50 o bobol leol ac ymgyrchwyr yn dathlu penderfyniad y cyngor ar risiau Neuadd Sir Gaerfyrddin ddoe (dydd Iau, Medi 14).
Cafodd y cais am ganiatâd ei wrthod am resymau amgylcheddol, er mwyn gwarchod ecoleg fregus a bywyd gwyllt gwerthfawr yr ardal.
Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes wedi derbyn dros 800 o wrthwynebiadau gan bobol leol.
Dywed Magnus Gallie, arbenigwr cynllunio Cyfeillion y Ddaear, ein bod “mewn argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd” erbyn hyn.
“Fel y mae adroddiad yr ecolegydd yn dangos, byddai cloddio am y glo hwn wedi bod yn fygythiad difrifol i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin,” meddai,
“Mae cloddio am lo yn niweidiol, hyd yn oed os nad yw’n cael ei losgi, oherwydd mae’n ychwanegu at gyflenwadau byd-eang ac yn rhyddhau methan mwy niweidiol.
“Gwnaeth y cynghorwyr y penderfyniad cywir heddiw, gan anfon neges gref fod Cymru yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.”