Mae gweithiwr cefnogi teuluoedd gyda’r Joshua Tree yn dweud eu bod nhw’n cynnig “breichiau o amgylch y teulu”.

A hithau’n Fis Ymwybyddiaeth Canser Plant, mae Lea Manon Jones o Brestatyn wedi bod yn siarad â golwg360 am y cyfleoedd creadigol sydd ar gael i blant sy’n byw â chanser eu hunain neu blant sydd wedi’u heffeithio gan ganser plant eraill, er enghraifft eu brodyr a’u chwiorydd.

Mae tair ohonyn nhw’n gweithio ar draws y gogledd, ac maen nhw’n gwneud gwaith creadigol gyda phlant er mwyn helpu eu llesiant emosiynol.

Mae’r Joshua Tree yn darparu rhaglenni cymorth pwrpasol i wella lles emosiynol ac iechyd meddwl holl aelodau’r teulu agos ac estynedig mae canser plentyndod yn effeithio arnyn nhw.

Gyda chanser plant yn cael cryn effaith ar y plant a’u teuluoedd – yn emosiynol, yn ariannol ac o ran amser – mae’r creadigrwydd mae’r Joshua Tree yn ei gynnig o fudd mawr.

Effaith ar y teulu cyfan

“Mae canser yn troi bywyd y plentyn a’u teuluoedd upside-down,” meddai Lea Manon Jones.

“Mae o’n gyfnod hollol ansicr.

‘Dydyn nhw ddim yn gwybod beth sydd o’i blaenau nhw am y blynyddoedd nesaf i ddod.

“Beth sy’n digwydd fel arfer, mae Mam a Dad yma, neu Mam tra mae Dad adref efo’r teulu.

“Mae Dad yn mynd i’r ysbyty efo’r plentyn sy’n sâl, neu mae Nain a Taid yn cymryd drosodd yn gwylio ar ôl y brodyr a’r chwiorydd.

“Mae’r teulu’n mynd ar wahân pan mae’r plentyn yn mynd i’r ysbyty.

“Bysa’r plentyn yn gallu bod yna am fisoedd, yn dod adref bob hyn a hyn.

“Mae jest yn dibynnu ar sut mae pethau’n mynd.

“Mae o’n cael effaith ar bob un wan jac aelod o’r teulu, mae o’n anodd iawn i bawb.

“Mae yna oblygiadau ariannol hefyd, wrth gwrs.

“Os ydych chi’n deulu o ardal wledig, ac efallai does dim llawer o arian, mae gorfod teithio i Alder Hey i aros efo goblygiadau ariannol enfawr.”

Creadigrwydd yn allweddol

Mae creadigrwydd yn rhan allweddol o wasanaeth cefnogi teuluoedd ar wahanol adegau.

“Mae’n dipyn o ardal i gyfro, yn amlwg, felly rydym yn cyfro gwaith un-i-un efo un ai’r plentyn sy’n sâl efo canser, y brodyr a’r chwiorydd, y rhieni neu’r neiniau a theidiau, neu hyd yn oed y fodryb sydd efallai wedi cael eu heffeithio mwy na neb arall.

“Mae jest yn dibynnu ar yr unigolyn sy’n sdryglo efo’r diagnosis.

“Rydym yn gweithio efo’r teulu pan maen nhw’n cael diagnosis, neu yn ystod triniaeth, neu hyd yn oed ar ôl triniaeth.

“Os maen nhw efo trawma, rydym yn gweithio efo nhw ar ôl triniaeth.

“Mae’n cael ei deilwra yn uniongyrchol i beth mae’r teulu angen ei wneud un-i-un.

“Mae yna ran o’r gwaith yna yn gwneud gwaith creadigol wedyn.

“Efo plant cynradd, mae llawer o’r gwaith therapiwtig yn theraputic play neu mae o’n waith celf neu waith crefft.

“Wedyn, rydym yn siarad efo’r plentyn, brawd neu chwaer drwy gyfrwng creadigol.

“Rydym hefyd yn trio dod â rhai teuluoedd at ei gilydd.

“Rydym yn cael gweithdai celf weithiau; rydym newydd fod yn gweithio efo artist a byddwn ni’n gweithio yn creu pethau.

“Byddwn ni’n dod â theuluoedd at ei gilydd, plant at ei gilydd.

“Mae’n rhoi seibiant ar yr amser mwyaf afiach i’r teuluoedd yma.

“Rydym ni fel staff yn y Joshua Tree fel breichiau o amgylch y teulu.

“Yn amlwg, maen nhw’n cael cefnogaeth feddygol gan y doctoriaid a’r nyrsys.

“Rydym ni wedyn yn rhoi cefnogaeth emosiynol, lles iddyn nhw pan maen nhw’n dod allan o’r ysbytai wedyn.”

Creadigrwydd yn helpu i deimlo’n llai ynysig

Trwy waith grŵp creadigol, mae cyswllt dynol ar gael i bobol sy’n teimlo’n ynysig.

“Efo’r gwaith grŵp rydym yn gwneud, y gwaith creadigol, mae hynny’n gallu bod trwy roi play days ymlaen neu weithdai celf,” meddai Lea Manon Jones wedyn.

“Rydym yn dod â’r teuluoedd at ei gilydd, oherwydd mae teuluoedd yn gallu bod yn eithaf ynysig yn mynd trwy’r broses yma.

“Mae’r gwaith creadigol yn cysylltu pobol.

“Hefyd, maen nhw’n rhannu profiadau trwy siarad wrth fod yn greadigol.”

Mewn lle saff, gall plant archwilio’u teimladau trwy wneud rhywbeth sy’n ail natur iddyn nhw, sef chwarae.

“Efo’r therapi chwarae, mae’n rhoi ffocws gwahanol i’r plant,” meddai.

“Dwêd bod nhw’n trafod pethau fel profedigaeth neu amser gweld eu brawd neu chwaer yn sâl, wrth archwilio themâu drwy chwarae mae o’n rhoi ffocws gwahanol ac mae o’n rhoi pellter saff rhwng y materion sydd yn anodd iddyn nhw ddelio efo nhw, ond maen nhw’n gwneud o drwy chwarae.

“Mae o’n teimlo’n saffach, efallai, mae o’n teimlo’n llai bygythiol os maen nhw’n gwneud o drwy chwarae.

“Dyna sut maen nhw’n gwneud sens o’r byd, trwy chwarae, dyna sut maen nhw’n dysgu.

“Mae therapi chwarae yn avenue i archwilio rhai themâu mewn ffordd saff.”

Sut mae cael cymorth y Joshua Tree?

Mae gwasanaethau y Joshua Tree ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n bosib gwirfoddoli drwy e-bostio office@thejoshuatree.org.uk neu drwy ffonio 01606 331858.

“Mae yna bob tro gyfle os ydy rhywun eisiau dod i wirfoddoli aton ni,” meddai Lea Manon Jones.

“Mae croeso iddyn nhw gysylltu efo ni.

“Yn amlwg, mae’r gwasanaeth drwy’r Gymraeg hefyd.

“Rydyn ni jest eisiau i bobol wybod am y gwasanaeth.”