Mae cyn-weinidog yng Nghatalwnia wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar am helpu i gludo Carles Puigdemont, cyn-arlywydd y wlad, yn ystod ei gyfnod yn alltud yng Ngwlad Belg.
Mae Miquel Buch hefyd wedi’i gael yn euog o gamddefnyddio arian cyhoeddus am gyflogi heddlu Mossos d’Esquadra fel ymgynghorydd.
Mae Lluís Escolà, asiant yr heddlu aeth gyda Puigdemont i Wlad Belg, hefyd wedi’i garcharu am bedair blynedd ac wedi’i wahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus am 19 o flynyddoedd.
Dywed swyddfa’r erlynydd fod Escolà a dau o bobol eraill wedi cludo’r cyn-arlywydd i Frwsel fis Hydref 2017, ac rhwng Hydref 2017 a Gorffennaf 2018 roedd un ohonyn nhw wedi trefnu pob math o hawliau a gwyliau iddo, gan gael ei benodi i swydd newydd yn gyfnewid am wneud hynny.
Dywed yr erlynwyr mai prif bwrpas y swydd newydd hon oedd cludo Carles Puigdemont yn barhaol o’r llywodraeth gan ddefnyddio arian cyhoeddus.
Yn ystod ei 224 o ddiwrnodau yn y swydd, roedd e ar ei wyliau am 103 ohonyn nhw a dydy hi ddim yn hysbys lle’r oedd e am ugain niwrnod arall.
Ond mae Llywodraeth Catalwnia’n dweud nad oes angen i ymgynghorwyr gadw cofnod manwl o’u horiau gwaith, ac mae yntau’n dweud ei fod e wedi cwblhau rhywfaint o’r gwaith o bell.
Mae Miquel Buch yn dweud y bydd e’n apelio yn erbyn y ddedfryd “anghymesur” ac yn galw am eglurhad gan y barnwr.