Mae Prif Weinidog newydd Latfia wedi addo addysg i bawb yn yr iaith genedlaethol erbyn 2025.

Evika Silina, cyn-gyfreithiwr a chyn-weinidog lles o’r blaid Undod, yw’r prif weinidog newydd, a bydd hi’n arwain llywodraeth glymblaid yn dilyn ymddiswyddiad ei rhagflaenydd Krisjanis Karins fis diwethaf.

Daw’r addewid ynghylch addysg mewn gwlad lle mae Rwsiaid ethnig yn cyfrif am chwarter y boblogaeth ac yn poeni am golli eu hunaniaeth.

Roedd y llywodraeth flaenorol yn feirniadol o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ac mae disgwyl i’r llywodraeth newydd ddilyn yr un trywydd ar y mater hwnnw.

Ymddiswyddodd Krisjanis Karins ar ôl ffrae â phartneriaid iau yn y llywodraeth glymblaid.

Dywed y prif weinidog newydd ei bod hi’n bosib mai’r newid polisi mwyaf fydd y ddeddfwriaeth i gyfreithlonni priodasau ar gyfer cyplau o’r un rhyw.

Yn sgil penodiad Evika Silina, mae gan bob un o’r tair gweriniaeth yn y gwledydd Baltaidd [Latfia, Estonia a Lithwania] fenywod yn eu harwain.

Bydd y llywodraeth newydd hefyd yn ymrwymo i gynyddu gwariant ar amddiffyn erbyn 2027.

Mae disgwyl i etholiad cyffredinol nesaf Latfia gael ei gynnal yn 2026.