Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn datgan eu cefnogaeth i’r egwyddor o gyflwyno ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4’ yn y sir.

Bob tro y caiff tŷ ei droi’n ail gartref neu’n llety gwyliau, mae llai o stoc o dai i bobol y sir, ac mae prisiau’n cael eu chwyddo, meddai’r Gymdeithas.

Ond mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn sefydlu fod angen caniatâd cynllunio i newid defnydd tŷ o fod yn gartref parhaol i fod yn ail gartref neu’n llety gwyliau.

Mae’r Gymdeithas yn credu bod y symudiad hwn yn un “rhesymol sydd yn dilyn egwyddorion normal prosesau cynllunio o ran rheoli defnydd a sicrhau fod cyflenwad tai digonol a fforddiadwy i gymunedau lleol”.

Ond maen nhw’n poeni na fydd y Cyngor yn mynd yn ddigon pell, nac yn symud yn ddigon cyflym, er mwyn datrys yr argyfwng tai yng nghymunedau lleol y sir.

Bydd Cabinet y Cyngor Sir yn cynnal cyfarfod ddydd Llun (Medi 18) er mwyn trafod adroddiad cychwynnol gan swyddogion ynghylch casglu tystiolaeth fydd yn sail i gynnal ymgynghoriad y flwyddyn nesaf ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn y sir.

Pryderon

Dywed Cymdeithas yr Iaith fod ganddyn nhw dri phrif bryder, sef:

  • fod hwn yn fater brys oherwydd yr argyfwng dai yng nghymunedau Sir Gâr. Mae amserlen y sir eisoes fwy na blwyddyn tu ôl i amserlen Sir Gwynedd, ac maen nhw’n poeni am bwyslais gor-bwyllog yr adroddiad ac amserlen rhy araf.
  • awgrym, o bosibl, fod y swyddogion yn ystyried cyfyngu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 i rai ardaloedd o’r sir yn unig, a fyddai, yn ei dro, ond yn gwthio’r broblem yn fwy at ardaloedd eraill. Maen nhw’n gofyn am eglurhad o’r cychwyn mai dilyn llwybr sir-gyfan (fel yng Ngwynedd) y bydd y Cyngor.
  • mai darparu cartrefi i gymunedau lleol a rheoli’r farchnad agored yw pennaf ddiben polisi tai. Tra bod ail gartrefi a gormodedd llety gwyliau mewn mannau’n gwaethygu’r broblem, y brif broblem yw na all pobol leol yn aml gystadlu ar y farchnad agored gyda phrynwyr gyfoethocach sydd am symud i’r ardal o bell, neu fel cymudwyr o ardaloedd trefol cyfagos.