Amwysedd ac amrywiaeth yr agweddau tuag at undod y wladwriaeth Brydeinig ymhlith pobl Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yw un o brif ganfyddiadau arolwg cynhwysfawr diweddar.
The ambivalent union yw teitl adroddiad yr arolwg a wnaed gan yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd ac Ailsa Henderson o Brifysgol Caeredin a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf. Mae’n adeiladu ar ymchwil trylwyr blaenorol ganddyn nhw ar arwyddocâd hunaniaeth mewn patrymau pleidleisio, a hynny’n fwyaf arbennig yng nghyd-destun refferendwm Brexit yn 2016.
Un o’r canfyddiadau a ddaeth i’r amlwg bryd hynny oedd bod pobol yn Lloegr a oedd yn disgrifio’u hunain fel Saeson yn hytrach na Phrydeinwyr yn fwy tebygol o fod wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd na’r rhai a oedd yn disgrifio’u hunain fel Prydeinwyr. Y gwrthwyneb oedd yn wir yng Nghymru a’r Alban, lle’r oedd y rhai a oedd yn disgrifio’u hunain fel Prydeinwyr yn fwy tebygol o gefnogi Brexit tra bod y rheini a oedd yn galw’u hunain yn Gymry neu Albanwyr yn pleidleisio dros aros.
Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn edrych yn fwy penodol ar arwyddocâd y gwahanol hunaniaethau hyn ar agweddau at undod a pharhad y wladwriaeth Brydeinig yn ei ffurf bresennol. Unwaith eto, gwelwn fod y rheini sy’n adnabod eu hunain fel Prydeinwyr yn Lloegr yn wahanol i raddau helaeth yn eu hagweddau i’r rheini sy’n adnabod eu hunain fel Prydeinwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn wir, mae’r Prydeinwyr hyn â llawer mwy yn gyffredin â’r rheini sydd yn Lloegr yn disgrifio’u hunain fel Saeson, yn ôl yr adroddiad.
Un o’i gasgliadau pwysicaf yw mai llugoer yw’r agweddau o fewn y pedair gwlad at yr hyn mae’n ei alw’n muscular unionism – wrth ddisgrifio’r math o agenda gwleidyddiol mae llywodraethau Prydain wedi ei ddilyn ers pleidlais Brexit.
Mae’n ymddangos bod hyn yn apelio at garfannau bach, gan gynnwys cefnogwyr y DUP yng Ngogledd Iwerddon, a chefnogwyr y Torïaid yng Nghymru a’r Alban, ond nid yw cefnogwyr y Torïaid yn yn Lloegr yn uniaethu eu hunain yn agos i’r un graddau ag agweddau o’r fath.
Yn ôl yr awduron, mae agweddau’r cyhoedd yn gyffredinol at yr undeb yn gymaint mwy amwys ac amodol fel bod gwleidyddion sy’n rhy eithafol unoliaethol mewn perygl o elyniaethu llawer o gefnogwyr yr undeb.
Amrywiaeth ymysg Prydeinwyr
Yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng ymwybyddiaeth Brydeinig ar y naill law ac ymwybyddiaeth Gymreig, Seisnig neu Albanaidd ar y llaw arall, mae’r awduron yn ymdrin hefyd â’r amrywiaeth barn sydd o fewn y rheini sy’n adnabod eu hunain fel Prydeinwyr.
“Mae Prydeindod yn amlygu ei hun mewn nifer o ffyrdd gwahanol ac anghyson ledled y wladwriaeth,” meddent. “Gall rhywun fynd cyn belled â dadlau nad oes unrhyw un hunaniaeth Brydeinig genedlaethol sydd â chyd-ddealltwriaeth o’r undeb, ond yn hytrach bod sawl fersiwn o Brydeindod ledled y wladwriaeth, a phob un yn gysylltiedig â gweledigaethau gwahanol ac anghyson ar brydiau o’r wladwriaeth.”
O ran amheuaeth at ddatganoli, y rheini sy’n disgrifio’u hunain fel Saeson ac nid Prydeinwyr sydd fwyaf amheus, tra bod y rheini sy’n digrifio’u hunain fel Albanwyr neu Wyddelod ac nid Prydeinwyr ar y pegwn arall. (Mae’r un peth yn wir am agweddau at yr Undeb Ewropeaidd hefyd). O blith y rhai sy’n ystyried eu hunain fel Prydeinwyr yn bennaf, y rheini sy’n galw’u hunain yn Brydeinwyr ac nid Cymry yw’r rhai sydd fwyaf pryderus ynghylch datganoli, tra bod y garfan ‘Prydeinwyr nid Saeson’ ymhlith y rhai â lleiaf o bryder.
Neges ganolog yn yr adroddiad yw bod Prydeindod yn golygu gwahanol bethau mewn gwahanol rannau o’r wladwriaeth, a bod yn rhaid ystyried hyn wrth geisio dealltwriaeth fwy trylwyr o wleidyddiaeth Prydain.
Gwella dealltwriaeth
Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn ychwanegiad gwerthfawr at y gwaith arloesol a wnaed gan yr awduron dros y blynyddoedd diwethaf. Nid oes obaith deall gwleidyddiaeth Cymru heb ddysgu mwy am y gwahanol raddau o ymwybyddiaeth Gymreig ac o deimlad o berthyn i Gymru sydd ymhlith y boblogaeth.
Pan fo cymaint o genedlaetholwyr Cymraeg yn ailadrodd ystrydebau diog fel ‘diffyg hyder’ neu ‘ddiffyg asgwrn cefn’ pobl Cymru fel esboniadau dros fethiannau’r mudiad cenedlaethol, mae ymdriniaeth ddeallus fel hon fel chwa o awyr iach.
Os ydi ymlyniad wrth y syniad o Brydain yn rhan o ddiwylliant a hunaniaeth rhywun, nid ar chwarae bach mae newid hynny. Ar y llaw arall, un o gasgliadau pwysig yr adroddiad hwn yw na all y wladwriaeth Brydeinig chwaith gymryd teyrngarwch ei phobl yn ganiataol.
Ffactorau eraill
Un peth a allai ychwanegu mwy fyth at ein dealltwriaeth o arwyddocâd hunaniaeth yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain fyddai pe bai modd croes-gyfeirio hunaniaeth â ffactorau fel diwylliant, ethnigrwydd neu fannau geni.
Gallai hyn fod yn arbennig o werthfawr yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Lloegr, ond hefyd yng nghyd-destun y wladwriaeth yn gyffredinol.
Yn y Saesneg, mae’r termau ‘English’ ac ‘England’ yn cyfleu llawer mwy o gyfatebiaeth uniongyrchol nag y mae ‘Saeson’ a ‘Lloegr’ yn y Gymraeg. I ni, disgrifiad o grŵp diwylliannol o bobol fyddai’n diffiniad arferol o Saeson, yn hytrach na phobol o Loegr o angenrheidrwydd. Dydi pawb sy’n hanu o Loegr ddim yn Saeson, ac yn sicr, dydi Saeson ddim wedi eu cyfyngu i bobol o Loegr.
Gall rhai o ganfyddiadau’r adroddiad awgrymu amwysedd tebyg o dan yr wyneb ymhlith Saeson yn Lloegr hefyd.
Mae’n cyfeirio at amwysedd trefniant gwleidyddol presennol Prydain, lle mae llywodraeth Lloegr yn un â llywodraeth y wladwriaeth gyfan, gyda’i gwleidyddion yn sôn yn barhaus am ‘y wlad yma’ boed nhw’n sôn am Loegr yn unig neu am y Deyrnas Unedig gyfan.
Gallai hyn yn mynd ran o’r ffordd at esbonio nad yw’r ffaith fod pobol sy’n disgrifio’u hunain fel Saeson yn golygu o angenrheidrwydd fod eu hunaniaeth a’u gwladgarwch wedi eu cyfyngu i Loegr yn unig.
Arwydd o hyn yw sut mae cymaint o’r rheini yn Lloegr sy’n disgrifio’u hunain fel Saeson ymysg y rhai sydd fwyaf amheus o ddatganoli (er bod llawer ohonyn nhw hefyd yn ystyried Brexit yn bwysicach na chynnal undod y wladwriaeth).
Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu hefyd fod Seisnigrwydd a Phrydeindod yn tueddu i olygu’r un peth i lawer o’r cenedlaetholwyr Seisnig mwyaf pybyr. Mae arolygon eraill wedi awgrymu’n glir mai Saeson cynhenid fyddai mwyafrif llethol y bobl hyn, tra bod pobol o gefndir mwy cymysg yn fwy tueddol o ddisgrifio’u hunain fel Prydeinwyr.
Goruchafiaeth y Saeson
Yr hyn yw’r Deyrnas Unedig, mewn gwirionedd, ydy gwladwriaeth unoliaethol sydd o dan oruchafiaeth lethol y grŵp diwylliannol mwyaf, sef y Saeson.
O’r herwydd, mae holl sefydliadau’r wladwriaeth fel ei theulu brenhinol a’i lluoedd arfog yn gwbl Seisnig eu diwylliant a Seisnig eu hethos. Ac adwaith yn erbyn y Seisnigrwydd llethol hwn yw hanfod apêl y mudiadau cenedlaethol yng Nghymru a’r Alban i raddau helaeth.
Efallai nad yw’r term muscular unionism a ddefnyddir yn rheolaidd yn yr adroddiad yn llawn gyfleu’r oruchafiaeth Seisnig sy’n nodwedd mor amlwg o lawer o agweddau a gweithredoedd llywodraeth Prydain y dyddiau hyn. Mae ymgais glir gan y Llywodraeth i wthio’u gwerthoedd Seisnig ar y wladwriaeth gyfan yn ogystal â chryfhau undod.
Yn yr un modd, byddai cenedlaetholdeb Seisnig yn derm cywirach na Phrydeindod am y meddylfryd hwn. Mewn gwirionedd, yr unig grwp diwylliannol sy’n arddel cenedlaetholdeb Prydeinig yng ngwir ystyr y gair yw unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.
Cenedlaetholdeb Seisnig a dim byd arall a oedd yn gyfrifol am Brexit – ac yn ystod y refferendwm ac wedi hynny y gwelsom y cenedlaetholdeb hwn ar ei fwyaf atgas.
O ychwanegu’r gwaith ymchwil ar y bleidlais at yr wybodaeth ddemograffig sydd gennym am wahanol rannau o Brydain, mae casgliad arall hefyd yn anochel, sef y gallwn fod yn sicr fod mwyafrif gweddol gysurus o’r Saeson, fel y grŵp diwylliannol â goruchafiaeth, wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Tybed a yw hyn ymhlith y prif ffactorau pam na lwyddwyd i osgoi ffolineb y sefyllfa’r ydym ynddi heddiw? Beth bynnag am hynny, mae pawb ohonom yn talu’r pris am fuddugoliaeth fawr cenedlaetholdeb Seisnig, ac yn sicr am barhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod. Allwn ni ond gobeithio y bydd Brexit Britain yn parhau’n gymaint o lanast fel y bydd yn creu adwaith gynyddol yn erbyn y cenedlaetholdeb dinistriol hwn.