“Bydd strydoedd a chymunedau’n fwy diogel” wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r terfyn cyflymder o 20m.y.a. ar draws y wlad o heddiw (dydd Sul, Medi 17), yn ôl Sustrans Cymru.

Mae’r rheol newydd yn golygu mai 20m.y.a. fydd y terfyn cyflymder, ac nid 30m.y.a. ar heolydd caëedig a chyfyngedig.

Dywed Sustrans Cymru fod hwn yn “gam enfawr ymlaen” mewn gwlad sy’n “blaenoriaethu diogelwch ac ansawdd bywyd ei phobol”.

“Wrth gyflwyno 20m.y.a. fel y terfyn cyflymder diofyn ar heolydd cyfyngedig, bydd strydoedd Cymru’n llefydd mwy diogel a iachach,” meddai Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru.

“Dyma’r newid diogelwch mwyaf ers cenhedlaeth.

“Yr achos cryfaf ac amlycaf tros y terfyn cyflymder diofyn o 20m.y.a., yn syml iawn, yw y bydd yn achub bywydau.

“Mae anghytuno neu diystyru hynny’n golygu derbyn marwolaeth ac anafiadau fel rhywbeth safonol – rydyn ni eisiau gwell ar gyfer pobol Cymru, a dyna pam fod Sustrans yn cefnogi’n llwyr y terfynau cyflymder diofyn o 20m.y.a.

“Mae cyflymderau is yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau o ganlyniad i bellteroedd stopio byrrach, ac yn lleihau difrifoldeb anafiadau pan fydd gwrthdrawiadau.”

Meithrin cymunedau cryfach

Mantais arall y terfynau cyflymder newydd yw y byddan nhw’n “meithrin cymunedau cryfach drwy strydoedd tawelach, mwy diogel a mwy cyfeillgar”, medd Sustrans Cymru.

Maen nhw’n dweud y bydd gan lai o gymunedau heolydd cyflym, ac y bydd gan rieni lai o bryderon am ddiogelwch eu plant wrth iddyn nhw chwarae, ynghyd â llai o rwystrau i bobol wrth iddyn nhw geisio mynediad cyflym at wasanaethau lleol hanfodol.

“Fe fu gan bobol yng Nghymru ymdeimlad cryf o gymuned a solidariaeth erioed,” meddai Christine Boston wedyn.

“Rydyn ni’n credu mai ond cryfhau y bydd hyn gyda llai o lygredd a llai o berygl ar heolydd ein cymunedau ledled Cymru.

“Rydyn ni’n credu y bydd 20m.y.a. yn annog pob un o’r pethau hynny rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n dda.”

Manteision amgylcheddol

Yn ôl yr elusen newid hinsawdd Possible, bydd y terfynau cyflymder newydd yn dod â manteision amgylcheddol yn eu sgil.

“O allyriadau carbon i wrthdrawiadau y gellid eu hosgoi, mae’r achos tros dawelu ein ffyrdd yn cryfhau bob dydd,” meddai Leo Murray, cyd-gyfarwyddwr yr elusen.

“Mae Llywodraeth Cymru yn llygad eu lle wrth gyflwyno terfyn cyflymder mwy priodol fydd yn gwarchod pobol a’r blaned.

“Dylai pob llywodraeth fod yn dilyn yr arweinyddiaeth sydd wedi’i dangos yng Nghymru ar y mater hwn, a dechrau buddsoddi mwy mewn cerdded, bod ar olwynion [beic] a thrafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cael pobol i’r fan lle mae angen iddyn nhw fod heb fod ganddyn nhw gar preifat.”