Peth anarferol i mi yw gwrando ar sylwebaeth chwaraeon ar y radio, ond y pnawn Sadwrn aeth heibio – ar daith â llond y car o gyfeillion yn mynnu cyffro diweddaraf y meysydd chwarae – rhaid oedd gwrando ar Camp Lawn. Gwrando, ie, a dysgu. Gall y rheini ohonom sydd yn pregethu o Sul i Sul godi ambell arfer dda gan sylwebyddion chwaraeon Radio Cymru.
Y sylwebyddion gorau yw’r sylwebyddion radio. Yn yr un modd â’r pregethwyr, y gamp i’r sylwebydd yw cael y gynulleidfa i deimlo’n rhan o rywbeth na allan nhw mo’i weld. Yn yr un modd â’r pregethwr, dim ond y gair llafar sydd gan y sylwebydd radio i gyflawni ei (g)waith. Trwy gyfrwng ei (d)defnydd o iaith, mae’r sylwebydd tan gamp yn llwyddo – â ninnau ymhell o’r chwarae – i’n hargyhoeddi ein bod â rhan yng nghynnwrf y gêm. Yn ‘bresennol’, fel petai, gyda’r dorf yn gwylio dynion Warren Gatland neu Rob Page.
Erbyn meddwl, onid yw goslef ac iaith y sylwebydd yn newid gan ddibynnu ar ba gamp sydd dan sylw? Mae’r sibrydiad golff yn fwy agos-atoch na’r hir-floedd pêl-droed. Pan fydd pêl-droediwr yn sgorio, mae llais y sylwebydd yn cyfateb i ergyd y bêl. Pan fydd y golffiwr yn plygu dros y pyt terfynol, does neb yn tynnu anadl nes i’r bêl ddisgyn – neu beidio – i berfedd gwyn y twll.
Mae deinameg debyg ar waith yng nghyfathrebu’r pregethwr: beth yw’r gwahaniaeth rhwng llais Jeremeiaidd a llais Lucaidd? A ddylai fod gwahaniaeth rhwng llais ‘Iesu yng Ngalilea’ a llais ‘Iesu yn Jerwsalem’? Sut mae Salm yn swnio’n wahanol i Ddameg? Sut mae 1 Corinthiaid 13 yn newid, gan ddibynnu a gaiff y bennod ei darllen mewn angladd neu mewn priodas? Pa argraff gaiff ei chyfleu wrth ddarllen emyn yn yr un modd â phe baen ni’n darllen ein rhestr siopa wythnosol? Mae sglein ar sylwebaeth ambell un o bobol Camp Lawn, yn enwedig o ran cymariaethau a delweddau. Yn ôl ein gallu, dylid gosod ychydig o sglein ar gyfathrebu’r pregethwr hefyd, gan barchu’r Gymraeg wrth bregethu trwy gyfrwng yr iaith.
Yr ail beth, yn syml iawn: mae sylwebyddion radio weithiau’n gweithio fel tîm. Caiff y wybodaeth angenrheidiol ei darparu gan un llais, tra bod y llall yn cynnig lliw ar y manion a’r manylion. Weithiau, mae’r tîm yn cynnwys rhywun sydd wedi chwarae’r gêm, ac sydd felly’n gwybod sut beth yw bod ar y maes hwn yn chwarae’r gêm hon. Wrth glywed y ddeialog rhwng y naill a’r llall, mae’r gwrandäwr radio yn gweld mwy o’r gêm na’r sawl sydd yno’n ei gwylio hi!
Na, does dim rhaid i bregethwr gael ail bregethwr yn ei bulpud! Ond wrth fynd i’r afael ag ambell destun neu bwnc, fe ellid (yn wir, fe ddylid) symud o bwyslais i bwyslais, o safbwynt i safbwynt, er mwyn i’n gwrandäwr gael gwell syniad o ystod y meddwl a’r dehongli a berthyn i’r darn o’r Beibl dan sylw. Mae hyn yn anoddach nag estyn dim ond un dehongliad – ein dehongliad ninnau, neu ddehongliad yr ysgol ddiwinyddol sydd orau gennym.
Yn olaf, mae dod i arfer â sylwebydd yn gymorth mawr i werthfawrogi’r gamp. Dw i ddim ymhlith gwrandawyr selocaf Camp Lawn; serch hynny, mae gwell gennyf sylwebaeth ambell sylwebydd na’i gilydd. Pam hynny? Yn bennaf oll oherwydd eu mwynhad amlwg o’r gamp; am eu bod felly’n tanio chwilfrydedd ac yn hoelio sylw. Trwy hynny, cawn ganddyn nhw amgenach sylwebaeth na’r cofnodi a chlebar cyffredin. Beth bynnag fo testun ein ‘sylwebaeth’ – gȇm Ffiji yng Nghwpan y Byd neu “Duw, Cariad yw”, rowndiau rhagbrofol Ewro 2024 neu “Gwyn eu byd y …” – pan fo gwefr ein mwynhad, ein diddordeb a’n hangerdd yn amlwg, bydd gennym wrandawyr parod a gwerthfawrogol.
Un nodyn i orffen. Mae sylwebu’n grefft. Wrth wrando ar ambell un y prynhawn Sadwrn hwnnw, roedd ôl yr ymchwilio rhagblaen, y paratoi a’r hir-ymarfer yn amlwg yn ei sylwebaeth. Buasai gwell siâp ar grefydd yng Nghymru pe baen ni bregethwyr yn ystyried y gwaith o baratoi pregeth yn grefft; dawn i’w hymarfer a’i pherffeithio yn hytrach nag yn faich, yn ddiflastod wythnosol.