Dydy’r cynghorydd greodd ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i brynu cartref Owain Glyndŵr yn Sycharth “heb ddigalonni”, er gwaethaf canlyniad “siomedig” y ddadl yn y Senedd ddydd Mercher (Medi 13).

Er i ddeiseb Elfed Wyn ap Elwyn dderbyn cefnogaeth drawsbleidiol yn ystod y ddadl, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru nad yw prynu’r safle’n opsiwn.

“Mae’r safle mewn perchnogaeth breifat, mae ganddo denantiaid gydol oes, ac nid yw ar werth,” meddai Dawn Bowden.

“Ymhellach, nid yw mewn perygl ar hyn o bryd, felly nid yw prynu gorfodol yn opsiwn.”

Fodd bynnag, dywed Elfed Wyn ap Elwyn nad yw am roi’r gorau i ymgyrchu dros yr achos.

“Roedd popeth yn mynd yn grêt tan i’r gweinidog ymateb; roeddwn i’n obeithiol iawn fasa rhywbeth yn digwydd,” meddai wrth golwg360.

“Doedden nhw [Llywodraeth Cymru] ddim hyd yn oed yn gefnogol i roi arwyddion i fyny.

“Eto, doeddwn i ddim yn teimlo ei fod o’n wastraff amser o gwbl, roeddwn i wedi disgwyl fyswn i’n hitio fy mhen yn erbyn wal.

“Y cam nesaf ydi trio ffeindio ffordd dros y wal yna.”

Deiseb “wedi llwyddo”

Er na lwyddodd y ddeiseb yn ei phrif nod, mae Elfed Wyn ap Elwyn yn credu ei fod wedi llwyddo mewn ffyrdd eraill.

“Rydw i yn meddwl fod y ddeiseb wedi llwyddo,” meddai.

“Un o’r pethau roeddwn i eisiau ei wneud oedd jest codi ymwybyddiaeth o’r safle, yn enwedig i blant ifanc ac ysgolion.”

Ond mae ceisio annog y Llywodraeth i brynu’r safle’n dal yn flaenoriaeth iddo.

“Rydw i dal yn credu’n gryf bod angen prynu’r safle yma achos oedd ymateb Dawn Bowden yn teimlo fel ei bod hi’n osgoi delio efo’r sefyllfa bresennol,” meddai wedyn.

“Maen nhw’n hapus i ddathlu’r safle, ond ddim yn barod i roi arwyddion i ddangos ble mae o, sydd, i fi, yn swnio’n wallgof ac yn gyrru fi ar yr un llwybr diddiwedd yma.”

‘Rhy fregus’

Un o bryderon Dawn Bowden yn ystod y ddadl oedd fod y safle’n rhy fregus i ymdopi â thon fawr o ymwelwyr.

Ond mae ateb syml i hynny, yn ôl Elfed Wyn ap Elwyn.

“Wel, yr ateb fysa prynu’r safle a’i wneud o’n saff a dangos i bobol lle mae o i gael dechrau dehongli ein hanes ein hunain,” meddai.

Ond yn ôl Dawn Bowden, mae ffyrdd eraill o warchod a hyrwyddo’r safle heb orfod ei brynu.

“Fel heneb gofrestredig, mae’r safle’n wedi’i warchod drwy ddeddfwriaeth, ac mae gwaith partneriaeth agos yn mynd rhagddo rhwng perchnogion y safle, ystâd Llangedwyn, y ffermwyr tenant, a Cadw, i ddarparu ar gyfer cadwraeth a chynnal a chadw gweddillion ffisegol Sycharth,” meddai.

“Drwy’r cydweithio hwn, mae llawer wedi’i gyflawni eisoes, ac rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, wedi cefnogi gwelliannau o ran mynediad, cadwraeth, adnoddau dehongli ac arolygon archeolegol helaeth.”

Yn dilyn cefnogaeth gref gan aelodau Plaid Cymru, megis Cefin Campbell a Mabon ap Gwynfor; Ceidwadwyr Cymreig megis Russell George a Mark Isherwood; a’r aelodau Llafur, Carolyn Thomas a Jack Sargeant yn ystod y ddadl, dywed Elfed Wyn ap Elwyn y bydd yn parhau i ymgyrchu.

“Dydw i heb ddigalonni, jest speed bump yn y ffordd oedd hyn, sydd am wneud y daith yn hirach,” meddai.