Mae disgwyl i’r Senedd gymeradwyo diwygiadau heddiw (dydd Llun, Medi 18) sy’n cynnwys cynyddu nifer yr Aelodau ym Mae Caerdydd.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, y nod yw gwneud y sefydliad yn fwy modern ac effeithiol er mwyn iddo allu cynrychioli pobol Cymru’n well drwy graffu, llunio cyfreithiau a dwyn y llywodraeth i gyfrif.

Cafodd argymhellion cychwynnol eu cymeradwyo gan y rhan fwyaf o Aelodau’r Senedd fis Mehefin y llynedd.

Pe bai’r diwygiadau’n cael eu derbyn gan fwyafrif, byddan nhw’n dod i rym erbyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

Beth yw’r diwygiadau?

Dyma’r diwygiadau fyddai’n dod i rym pe baen nhw’n cael eu derbyn:

  • 96 Aelod o’r Senedd fydd yn cael eu hethol drwy’r system cynrychiolaeth gyfrannol a rhestrau caëedig, gan ddefnyddio fformiwla D’Hondt.
  • Bydd 16 o etholaethau seneddol yn cael eu creu drwy baru’r 32 etholaeth newydd yn San Steffan yng Nghymru mewn adolygiad annibynnol, a bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
  • Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd o 2026.
  • Bydd modd penodi uchafswm o 17 o weinidogion i Lywodraeth Cymru, yn lle’r 12 presennol (ynghyd â’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol). Bydd modd i’r gweinidogion gynyddu’r nifer i 18 neu 19 gyda chymeradwyaeth y Senedd.
  • Bydd modd penodi dau Ddirprwy Lywydd yn lle un, a bydd rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd fyw yng Nghymru.
  • Bydd llwybr ar gael i’r seithfed Senedd ystyried ymhellach oblygiadau ymarferol a deddfwriaethol Aelodau o’r Senedd nesaf yn rhannu swyddi.
  • Bydd mecanwaith adolygu i ystyried gweithrediad ac effaith darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn etholiad 2026 ac unrhyw fater arall yn ymwneud â diwygio’r Senedd y mae o’r farn sy’n berthnasol.
  • Mae’r Bil hefyd yn cynnig y dylid cynnal adolygiad ffiniau llawn ar ôl etholiad Senedd 2026. Daw hyn i rym o etholiad Senedd 2030, a bydd adolygiadau’n cael eu cynnal bob wyth mlynedd. Bydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cael ei addasu a’i ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gyda’r swyddogaethau angenrheidiol i adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd.
  • Bydd Bil arall yn cael ei gyflwyno’n nes ymlaen yn y flwyddyn i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd, er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn fwy effeithiol ac yn cynrychioli’r bobl y mae’n ei wasanaethu.

‘Siomedig’

Mae’r Ceidwadwyr wedi mynegi eu “siom” ynghylch y diwygiadau.

Maen nhw’n dweud bod newid maint y Senedd am gostio “degau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn” wrth i Lywodraeth Cymru “fygwth torri cyllidebau ysgolion ac ysbytai”.

“Mae angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru, nid rhagor o wleidyddion,” meddai Darren Millar, llefarydd y blaid ar y Cyfansoddiad.

“Dylai’r Llywodraeth Lafur fod yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag amserau aros annerbyniol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, safonau gwael mewn ysgolion a pherfformiad tila economi Cymru, nid gwastraffu amser, egni ac arian trethdalwyr yn datblygu rhagor o ddeddfwriaeth eto fyth ar Ddiwygio’r Senedd.”

Wrth ymateb i adroddiadau y gallai gostio hyd at £120m i wireddu’r cynnig, dywed Darren Millar fod Llywodraeth Cymru’n “brefu o hyd am ragor o arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig”.

“Ond eto, mae’n ymddangos bod ganddyn nhw arian i’w losgi ar ragor o wleidyddion a swyddfeydd gweinidogol,” meddai.

“Bydd cost cynlluniau Llafur i Ddiwygio’r Senedd yn halen ar y briw i staff yn ysbytai ac ysgolion Cymru sydd wedi’u rhybuddio gan weinidogion fod toriadau ar y ffordd.

“Mae pobol Cymru eisiau mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon, nid rhagor o wleidyddion.

“Ddylai’r cynigion hyn ddim mynd yn eu blaenau heb eu caniatâd penodol mewn refferendwm.”

‘Democratiaeth decach’

Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, y bydd hi’n manteisio ar y cyfle i alw am “ddemocratiaeth decach” i’r genedl.

“Mae pobol Cymru’n haeddu Senedd sy’n addas at ei phwrpas, rŵan ac yn y dyfodol,” meddai.

“Nid ethol rhagor o bobol i’r Senedd er mwyn ethol rhagor o bobol i’r Senedd ydi hyn.

“Mae angen gwell craffu ar Lywodraeth Cymru arnom, a’r ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario a sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio i’n cymunedau, a senedd sydd â’r adnoddau sydd eu hangen arni i sefyll i fyny dros bobol gyffredin.

“Ers amser hir, bu’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw am system decach lle mae pleidleisiau’n cyfateb i seddi, gan roi terfyn ar seddi a gyrfaoedd diogel am byth.

“Byddaf yn defnyddio pa ddylanwad bynnag sydd gen i er mwyn sicrhau bod y cynigion hyn yn cyflwyno democratiaeth decach i’n gwlad.”