Bydd Fforwm Addysg Gymraeg Powys yn cyfarfod heddiw (dydd Llun, Medi 18) i drafod y cynlluniau i droi Ysgol Llanfair Caereinion yn ysgol Gymraeg.

Ysgol ddwy ffrwd yw hi ar hyn o bryd, ond cafodd cynlluniau tebyg eu cyflwyno ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth y flwyddyn ddiwethaf.

Yn achos Ysgol Bro Hyddgen, pleidleisiodd Cabinet Cyngor Powys yn unfrydol o blaid y cynllun, ond roedd cryn wrthwynebiad gan gynnwys deiseb yn ei erbyn.

Roedd Cyngor Tref Machynlleth hefyd wedi anfon llythyr at Gyngor Powys yn mynegi eu gwrthwynebiad.

Mae disgwyl i’r holl addysgu yn yr ysgol honno fod trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2035.

Rhoi hwb i’r Gymraeg

Nod y cynllun yn achos Llanfair Caereinion yw rhoi hwb i’r Gymraeg yn yr ardal.

Cafodd Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwchradd Caereinion eu cyfuno fis Medi y llynedd o dan yr enw Ysgol Bro Caereinion, ysgol sy’n dysgu plant rhwng pedair a deunaw oed.

Mae disgwyl newid iaith yr ysgol yn raddol, fesul blwyddyn, gan ddechrau gyda’r dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 fis Medi 2025.

Bwriad y Cyngor yw i bob disgybl ddod yn ddwyieithog dros gyfnod o amser, a byddai’r rheiny nad ydyn nhw’n rhan o’r ffrwd Gymraeg ar hyn o bryd yn derbyn cymorth i’w trochi yn yr iaith.

Bydd Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau Cyngor Powys yn ystyried y cynllun ddydd Mercher (Medi 20), a bydd yn mynd gerbron y Cabinet ddydd Mawrth nesaf (Medi 26).

Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Vaughan o Blaid Cymru, fe fu’n “broses raddol” ond yn un “chwyldroadol”.

Newid statws iaith Ysgol Bro Hyddgen i fod yn un ffrwd, cyfrwng Cymraeg

Bydd yr ysgol ddwy ffrwd yn cael ei newid yn raddol i fod yn un ffrwd yn unig – i sicrhau bod pob plentyn yn yr ysgol yn ddwyieithog