Bydd Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn cael ei newid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol un ffrwd cyfrwng Cymraeg.
Gwnaeth cabinet Cyngor Powys bleidleisio yn unfrydol o blaid y cynllun, er bod cryn dipyn o wrthwynebiadau wedi bod, yn cynnwys deiseb wedi ei harwyddo gan 1,219 o bobol yn erbyn.
Roedd Cyngor Tref Machynlleth hefyd wedi anfon llythyr at Gyngor Powys yn mynegi eu gwrthwynebiad i argymhelliad cabinet y Cyngor i newid iaith yr ysgol gydol oes.
Mae Ysgol Bro Hyddgen yn darparu addysg ar gyfer tua 500 o ddisgyblion 4-18 oed.
Mae disgwyl i’r holl addysgu yn yr ysgol fod trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2035.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies – aelod cabinet ar Addysg ac Eiddo – wrth y cabinet fod y cyngor, yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig, wedi derbyn mwy na 400 o ymatebion.
Roedd 61% o’r rhain o blaid y cynnig i newid categori iaith yr ysgol i gyfrwng Cymraeg, gyda 35% yn gwrthwynebu’r cynllun.
Er y gwrthwynebiadau ar bapur, dim ond tri phlentyn allan o 15 sydd wedi mynd i mewn i’r ffrwd Saesneg yn y cyfnod sylfaen eleni.
Mae’r newid yn golygu mai dyma fydd yr ysgol gydol oes cyfrwng Cymraeg cyntaf ym Mhowys, a bydd hynny’n digwydd yn raddol rhwng nawr a mis Medi 2022.
Ymateb Cymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad cabinet Cyngor Sir Powys i ganiatáu i Ysgol Bro Hyddgen ddechrau addysgu drwy’r Gymraeg yn unig.
“Mae hyn yn newyddion calonogol iawn, ac yn rhoi gobaith i gymaint o bobl a chymunedau eraill,” meddai Osian Rhys o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Diolch o galon i’r llywodraethwyr ysgol, ymgyrchwyr a gwleidyddion sydd wedi cefnogi’r newid cadarnhaol iawn hwn.
“Ysgolion cyfrwng Cymraeg yw’r unig ffordd o sicrhau bod plant yn gallu cyfathrebu yn rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg.
“Mae symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith fel hyn yn un o’r prif ffyrdd y byddwn ni fel cymdeithas yn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a mwy.
“Dyna pam rydyn ni’n galw am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb fydd yn annog a hwyluso troi ysgolion ar draws y wlad yn rhai cyfrwng Cymraeg, gyda phrosesau newydd llawer haws a thargedau statudol i bob cyngor sir.”