Mae Cyngor Sir Powys wedi datgan bod cynlluniau i droi Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn ysgol cyfrwng Cymraeg gam yn nes at gael eu gwireddu.

Mae’r Cyngor am newid yr ysgol o fod yn ysgol ddwy ffrwd, a fyddai’n golygu mai hon fyddai’r ysgol Gymraeg bob oed gyntaf yn y sir.

Heddiw (dydd Mawrth, Mai 18), cytunodd y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol ar ôl derbyn ac ystyried yr adroddiad ymgynghori.

Bu’r cyngor yn cynnal ymgynghoriad dros saith wythnos yn ystod misoedd Rhagfyr ac Ionawr diwethaf.

Bydd y cynnig yn helpu’r cyngor i gyflawni un o nodau ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2030, sef gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol.

Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu cyflwyno gam wrth gam, blwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda dosbarth Derbyn yr ysgol ym mis Medi 2022.

Yn ogystal, byddai cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion i wella eu sgiliau yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfleoedd am addysg drochi.

“Datblygiad blaenllaw”

“Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y cynnig hwn,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo.

“Trwy symud Ysgol Bro Hyddgen ar hyd y continwwm iaith, bydd yn ein helpu ni gwrdd â’r nodau a’r amcanion yn ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

“Bydd hefyd yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac felly’n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Er i nifer ddatgan cefnogaeth i’r cynnig, cafwyd hefyd pryderon.

“Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, byddwn yn gweithio gyda’r ysgol i sicrhau fod darpariaeth Ysgol Bro Hyddgen yn parhau i ateb anghenion dysgwyr ardal Machynlleth.

“Byddwn nawr yn parhau â’r cynnig i droi Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol cyfrwng Cymraeg pob oed gyntaf y sir trwy gyhoeddi’r hysbysiad statudol i gynnig y newid yn ffurfiol.

“Rydym yn datblygu campws cymunedol newydd gwych i Ysgol Bro Hyddgen a chymuned Bro Ddyfi a fydd yn ddatblygiad blaenllaw nid yn unig i’r ardal, ond hefyd i’r sir ac i Gymru,” dywedodd Phyl Davies.

“Ochr yn ochr â’r datblygiad hwn, rydym am roi cyfle i bob plentyn gael y manteision a ddaw yn sgil addysg ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf.”

Mae disgwyl y bydd yr hysbysiadau statudol yn cael eu cyhoeddi’n fuan, a bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad pellach sy’n crynhoi’r gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn yr hydref.