Mae dau aelod o Lywodraeth Cymru ac arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn i adroddiadau yn y Financial Times sy’n awgrymu y gallai ffermwyr o Awstralia gael mynediad i’r Farchnad Brydeinig heb orfod talu tariff.
Mae lle i gredu bod yna “frwydr ffyrnig” oddi mewn i Lywodraeth Prydain wrth iddyn nhw geisio penderfynu a ddylid cymeradwyo cytundeb masnach ag Awstralia, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod yr Adran Amaeth a’r Adran Fasnach Ryngwladol yn anghydweld ynghylch amodau’r cytundeb.
Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Prydain yn awyddus i gwblhau’r cytundeb erbyn Uwchgynhadledd y G7 yng Nghernyw fis nesaf.
Yn ôl Adam Price, pe bai’r adroddiadau’n gywir, dyma fyddai’r “prawf eithaf o ddiffyg ffyddlondeb San Steffan i Gymru”.
Ac mae Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, a Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, yn rhybuddio na all unrhyw gytundeb achosi anfantais i ffermwyr o Gymru.
‘Dileu amaeth Cymru’
“Byddai’r cytundeb hwn a’r rhai fyddai’n dilyn yn dileu amaeth Cymru,” meddai Adam Price.
“Rhaid i Gymru uno ar frys yn ei gwrthwynebiad i’r fandaliaeth economaidd yma.”
Yn ôl y Financial Times, fe allai’r ddadl danio’r alwad unwaith eto am annibyniaeth i Gymru a’r Alban gan y byddai’n niweidiol i sectorau amaeth y ddwy wlad.
Ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud na all unrhyw gytundeb “roi ffermwyr Cymru o dan anfantais”.
“Mae ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd,” meddai Vaughan Gething.
“Rydyn ni wedi bod yn glir iawn â Llywodraeth y Deyrnas Unedig na all unrhyw gytundebau masnach newydd achosi tir anwastad, gan roi mantais economaidd i fewnforwyr bwyd â safonau is yn ein marchnad ni o’u cymharu â’n cynhyrchwyr bwyd ein hunain.”
Yr un yw neges Lesley Griffiths.
“Rydym yn eithriadol o falch o’r safonau diogelwch bwyd uchel sydd gennym yma yng Nghymru, gan gynnwys safonau’n ymwneud â iechyd a lles anifeiliaid, y gallu i olrhain, yr amgylchedd a diogelwch bwyd,” meddai.
“Ni ddylai unrhyw gytundeb masnach fyth danseilio hynny na’n deddfwriaeth ddomestig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi hyn droeon wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig.”