Mae Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Stafford yn galw ar Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, i gamu’n ôl o faterion yn ymwneud â phlismona yn dilyn oedi eto cyn cyhoeddi adroddiad ar yr ymchwiliad i lofruddiaeth y Cymro Daniel Morgan.

Mae Gareth Morgan yn dweud yn The Times ei fod yn gofidio bod Priti Patel wedi ymyrryd mewn materion yn ymwneud â gweithrediadau’r heddlu a allai greu’r argraff fod plismona’n rhan o waith Llywodraeth Prydain.

Daw hyn ar ôl i’r adroddiad am yr ymchwiliad i lofruddiaeth y Cymro yn Llundain yn 1987 gael ei ohirio o ganlyniad i adolygiad “diangen” sy’n cwestiynu annibyniaeth yr awdur.

Dydy’r Swyddfa Gartref ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.

Llofruddiaeth Daniel Morgan a’r adroddiad

Cafodd Daniel Morgan o Sir Fynwy, oedd yn dad i ddau o blant ac yn dditectif preifat, ei ladd â bwyell ym maes parcio tafarn y Golden Lion yn Sydenham yn ne-ddwyrain Llundain ar Fawrth 10, 1987.

Er i bum ymchwiliad a chwest gael eu cynnal, does neb wedi’i gael yn euog o’i lofruddio, ac mae Heddlu Llundain yn cyfaddef fod llygredd wedi tarfu ar yr ymchwiliad gwreiddiol.

Roedd disgwyl i’r panel sydd wedi bod yn ymchwilio i’r achos gyhoeddi adroddiad ddechrau’r wythnos hon, ond fe gawson nhw wybod gan y Swyddfa Gartref nad oedd modd neilltu amser yn San Steffan ar gyfer hyn.

Daeth cadarnhad wedyn fod y Swyddfa Gartref yn dymuno adolygu’r adroddiad sydd, yn ôl pob tebyg, yn cynnwys “pennod fawr” ar lygredd yr heddlu, ac y bydden nhw’n cadw darnau o’r adroddiad yn gyfrinachol pe bai angen.

Cafodd Panel Annibynnol Daniel Morgan wybod na fyddai dyddiad cyhoeddi’n cael ei gytuno hyd nes bod y Swyddfa Gartref wedi adolygu’r adroddiad er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â hawliau dynol ac nad oedd yn peryglu diogelwch cenedlaethol.

Yn ôl y panel, dyma’r tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2013 iddyn nhw glywed y byddai hyn yn digwydd ac maen nhw’n gofidio bod y cam “yn ddiangen” ac nad yw’n “gyson ag annibyniaeth y panel”.

Pan gafodd ei sefydlu gan Theresa May, y prif weinidog ar y pryd, gwaith y panel oedd mynd i’r afael â chwestiynau’n ymwneud ag ymdriniaeth yr heddlu o’r achos, rôl llygredd wrth ddiogelu’r llofrudd, a’r cysylltiad rhwng ditectifs preifat, yr heddlu a newyddiadurwyr oedd yn gysylltiedig â’r achos.

Mae teulu Daniel Morgan yn dweud bod yr oedi’n “ergyd” a’i fod “yn bradychu ac yn tanseilio union bwrpas y panel”.

Dywed y panel eu bod nhw bellach yn gobeithio cyhoeddi’r adroddiad cyn diwedd y mis, a’u bod nhw’n “siomedig” ynghylch yr oedi.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae gan yr Ysgrifennydd Cartref “ddyletswydd” i sicrhau bod yr adroddiad yn cydymffurfio â hawliau dynol ac ystyriaethau o ran diogelwch cenedlaethol, ac “nad oes a wnelo fe ddim byd ag annibyniaeth yr adroddiad” ac nad yw’r Swyddfa Gartref “yn ceisio ei olygu”.