Mae gan dîm pêl-droed Casnewydd fantais o ddwy gôl ar ôl cymal cyntaf eu gêm ail gyfle gyn-derfynol yn erbyn Forest Green yn Rodney Parade neithiwr (nos Fawrth, Mai 18).
Ond mae’r rheolwr Michael Flynn yn siomedig nad oedden nhw wedi gallu rhoi’r gêm y tu hwnt i’r gwrthwynebwyr unwaith ac am byth.
Sgoriodd Matty Dolan chwip o gôl â’i droed chwith o’r tu allan i’r cwrt cosbi i roi’r Alltudion ar y blaen ar ôl hanner awr, cyn i Lewis Collins sgorio gôl gelfydd ar ddechrau’r ail hanner i ddyblu mantais ei dîm.
Cafodd Forest Green sawl cyfle hefyd, gydag Odin Bailey yn taro’r trawst â chic rydd cyn yr egwyl, ac fe beniodd Aaron Collins, brawd chwaraewr Casnewydd Lewis Collins, y bêl heibio’r postyn oddi ar groesiad o’r asgell chwith ar ddechrau’r ail hanner cyn i’w frawd sgorio 49 eiliad yn ddiweddarach.
A bydd Casnewydd yn dechrau’r ail gymal gan wybod mai dim ond dau dîm yn hanes y gemau ail gyfle sydd wedi llwyddo i daro’n ôl yn erbyn mantais o ddwy gôl i gyrraedd y ffeinal.
Serch hynny, roedd y rheolwr yn teimlo bod cyfleoedd i sgorio mwy o goliau.
“Roedd yn berfformiad da iawn ond dw i ychydig yn grac na wnaethon ni ladd yr ornest,” meddai.
“Yn sicr, dylen ni fod wedi sgorio llawer mwy na dwy gôl.
“Dw i ddim am redeg i ffwrdd â hyn oherwydd fe gawson ni gyfle i’w gorffen hi a wnaethon ni ddim.
“Gall unrhyw beth ddigwydd yn yr ail gymal.”