Mae tîm pêl-droed Wrecsam wedi ildio tir yn y ras am gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol ar ôl colli o 1-0 yn erbyn Notts County neithiwr (nos Fawrth, Mai 18).

Mae’r canlyniad ar y Cae Ras, serch hynny, yn hwb i obeithion Notts County.

Maen nhw bellach wedi codi uwchlaw Wrecsam i’r pumed safle.

Aethon nhw ar y blaen ar ôl 26 munud ar ôl ergyd o bell gan Jake Reeves, ac fe ddaeth Wrecsam o fewn trwch blewyn i daro’n ôl cyn yr egwyl wrth i ymgais Gold Omotayo gael ei arbed.

Tarodd Luke Young ergyd o bell ond aeth y bêl heibio’r postyn.

Dim ond pwynt o fantais sydd gan Wrecsam dros rai o’u prif wrthwynebwyr yn y ras bellach, ac maen nhw driphwynt y tu ôl i Notts County.