Mae’r cwmni pensaernïol AFL Architects wedi cael eu penodi gan Glwb Pêl-droed Wrecsam i ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu’r Cae Ras.
Mae’r cwmni wedi gwneud gwaith tebyg yn stadiymau Lerpwl, Chelsea, Stoke a sawl lleoliad ar gyfer cystadlaethau Ewropeaidd UEFA.
Mae cam cynta’r gwaith ar y gweill yn Wrecsam, gyda byrddau LED newydd o Wembley wedi’u gosod o amgylch y cae ar gyfer y gêm yn erbyn Bromley.
Bydd y cam nesaf ar sail archwiliad cychwynnol ac adolygiad, wrth i AFL geisio dod o hyd i ffyrdd i wella profiadau’r cefnogwyr yn y stadiwm.
Bydd y clwb hefyd yn ceisio cynyddu nifer eu haelodau, gwella profiadau’r cefnogwyr ar ddiwrnodau gemau a buddsoddi yn y tîm, a hynny gan ddefnyddio buddsoddiad y perchnogion adnabyddus newydd, yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Fel rhan o’r gwaith datblygu, bydd eisteddle’r Kop yn cael ei adnewyddu fel bod modd ei ddefnyddio eto.
Yn ôl John Roberts o gwmni AFL Architects, “mae hwn yn gyfnod eithriadol o gyffrous i’r clwb”, ac mae’n dweud bod “y cyfle i weithio i’r clwb hynaf yng Nghymru yn un i’w groesawu”.
Yn ôl Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae gwella’r stadiwm ymhlith prif addewidion y perchnogion newydd ac mae’r cam diweddaraf yn y gwaith “yn gam positif dros ben ymlaen”.