Mae ymosodwr Caerdydd, Mark Harris, wedi llofnodi cytundeb newydd sy’n rhedeg tan haf 2023.

Mae Harris wedi mwynhau ei ymgyrch gyda’r Adar Gleision y tymor hwn, gan dorri i mewn i’r tim cyntaf.

Mae cyn-chwaraewr dan-21 Cymru wedi gwneud 17 ymddangosiad i Gaerdydd y tymor hwn, gan sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb yn y fuddugoliaeth o 4-0 dros Luton ym mis Tachwedd. Mae hefyd wedi agorio yn erbyn Preston a Birmingham.

“Dw i’n falch iawn o fod wedi cytuno ar y fargen hon – dw i wedi bod gyda’r clwb ers ’mod i’n saith oed,” meddai Harris.

“Dw i wedi mwynhau tymor da iawn, ond dydw i ddim yn gorffwys ar hynny. Dw i eisiau chwarae cymaint â phosib a gwthio ymlaen nawr.”

Gwnaeth y llanc 22 oed, sydd wedi cael cyfnodau ar fenthyg gyda Chasnewydd, Port Vale a Wrecsam yn ystod y blynyddoedd diwethaf, argraff fawr ar reolwr Caerdydd, Mick McCarthy, yn y gêm Bencampwriaeth olaf yn y tymor ar ôl dod ymlaen am Kieffer Moore ar hanner amser.

“Rydyn ni wedi bod yn trafod hyn ers tro,” ychwanegodd McCarthy ar wefan y clwb.

“Yn Birmingham pan ddaeth ymlaen, sgoriodd gôl wirioneddol dda a’r gêm a berswadiodd fi oedd ei gêm olaf, yn erbyn Rotherham.

“Daeth ymlaen am Kieffer a gwnaeth waith gwych iawn ar ei ben ei hun yn y blaen. Mae Mark yn haeddu ei gontract newydd ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi llofnodi.”