Mae tîm criced Morgannwg yn teithio i Gaint heddiw (dydd Iau, Mai 20) gan obeithio gwneud y dwbwl drostyn nhw yn y Bencampwriaeth – gyda chefnogwyr y tîm cartref yn cael bod yno.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Prydain i ganiatáu torfeydd, bydd hyd at 950 o aelodau Caint yn cael bod yng Nghaergaint i wylio’r gêm.
Fel rhan o’r broses o ddewis pwy fyddai’n cael mynd, roedd blaenoriaeth i aelodau oes Caint ac yna’r rhai oedd wedi adnewyddu eu haelodaeth erbyn mis Chwefror.
Caint yw’r unig dîm maen nhw wedi’u curo yn y gystadleuaeth hyd yn hyn eleni, gyda buddugoliaeth swmpus o ddeg wiced o fewn deuddydd yng Nghaerdydd.
Mae dau newid yn y garfan, gyda Tom Cullen a James Weighell wedi’u dewis yn lle’r Cymry Lukas Carey, sydd wedi’i anafu, a Callum Taylor.
Mae Morgannwg yn drydydd yn y tabl ar hyn o bryd ar ôl ennill un, colli dwy a chael tair gêm gyfartal.
Gemau’r gorffennol
Dim ond pedair gwaith yn y gorffennol maen nhw wedi ‘gwneud y dwbwl’ dros Gaint gan na fu’n bosib hyd nes bod y Bencampwriaeth wedi’i hollti’n ddwy adran, gyda’r siroedd ond yn herio’i gilydd unwaith o dan yr hen drefn pan oedd y Bencampwriaeth yn un adran.
Roedden nhw’n fuddugol o fatiad ac wyth rhediad yng Nghaerdydd ac o wyth wiced yng Nghaergaint yn 2011, gyda Stewart Walters yn taro 147 oddi cartref gyda’r bêl binc ac oren o dan y llifoleuadau.
Fe wnaethon nhw’r dwbwl ym Mharc yr Arfau yn 1948 pan enillon nhw’r Bencampwriaeth am y tro cyntaf, ar y Gnoll yng Nghastell-nedd yn 1957 ac oddi cartref yn Gravesend yn 1992.
Mae rhai gemau hanesyddol wedi bod mewn criced undydd hefyd, wrth i Forgannwg ennill y gynghrair undydd yng Nghaergaint yn 1993 ac yn 2002.
Yn y fuddugoliaeth yn 2017, cipiodd Michael Hogan ddeg wiced yn y gêm, gan gynnwys chwe wiced am 43, wrth i Forgannwg ennill o bum wiced, er i Joe Denly, batiwr Lloegr, daro 152 i Gaint.
Dyma’r ffigurau gorau gan fowliwr o Forgannwg oddi cartref yn erbyn Caint.
Mae angen dwy wiced ar Hogan bellach i gyrraedd 400 o wicedi dosbarth cyntaf i Forgannwg.
Yn 2014, tarodd y capten presennol Chris Cooke 171, gan efelychu sgôr David Hemp yn 2005, ond roedd Cooke allan tra bod sgôr Hemp heb fod allan.
Daeth partneriaeth chweched wiced orau erioed Morgannwg yn erbyn Caint yn 2016, pan ychwanegodd Graham Wagg a’r gogleddwr David Lloyd 215 wrth i’r ddau daro canred yr un, er i Forgannwg golli o ddeg wiced.
Roedd record arall yn 2014 hefyd, pan ychwanegodd Cooke a Dean Cosker 118 at y sgôr i dorri’r record am y bartneriaeth wythfed wiced orau erioed.
Mae Morgannwg wedi colli 11 o gemau allan o 24 yng Nghaergaint.
Y gwrthwynebwyr
Mae nifer o chwaraewyr mwyaf blaenllaw Caint allan o’r gêm – Joe Denly (rhesymau personol), ac mae Tim Groenewald, Heino Kuhn, Matt Milnes, Harry Podmore, Imran Qayyum a Grant Stewart wedi’u hanafu.
Mae Sam Billings yn dychwelyd i arwain Caint ar ôl cyfnod cwarantîn wrth ddychwelyd i Loegr o gystadleuaeth yr IPL yn India.
Tarodd Jack Leaning chweched canred ei yrfa ddosbarth cyntaf yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Sussex oedd wedi gorffen yn gyfartal.
Roedd Leaning heb fod allan ar 127 ar ddiwedd yr ornest wrth iddo fe ac Ollie Robinson (85) adeiladu partneriaeth ddi-guro o 127 am y bedwaredd wiced.
Carfan Caint: S Billings (capten), D Bell-Drummond, J Cox, Z Crawley, M Cummins, N Gilchrist, F Klaassen, J Leaning, T Muyeye, M O’Riordan, M Quinn, O Robinson, D Stevens
Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), J Cooke, K Carlson, T Cullen, D Douthwaite, M Hogan, M Labuschagne, D Lloyd, M Neser, B Root, A Salter, T van der Gugten, J Weighell