Mae tair elusen wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Defnydd o’r Gymraeg yng Ngwobrau Elusennau Cymru heno (nos Lun, Tachwedd 25).
Gwasanaeth Ysgolion NSPCC Cymru, Celfyddydau SPAN, a’r Bartneriaeth Awyr Agored yw’r elusennau sydd yn y ras am y wobr yn y categori Defnydd Gorau o’r Gymraeg.
Jennifer Jones fydd yn arwain y noson, sy’n cael ei chynnal ar ddiwedd diwrnod cyntaf Wythnos Elusennau Cymru a’r ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sy’n trefnu’r gwobrau, sef “yr unig seremoni wobrwyo benodedig yng Nghymru sy’n dathlu’r holl sector gwirfoddol”.
Caiff y wobr Defnydd Gorau o’r Gymraeg ei noddi gan Mentrau Iaith, ac mae’n un o wyth categori’r gwobrau.
“Cydnabyddiaeth wych” o waith elusennau
Mae Gwasanaeth Ysgolion NSPCC wedi’i enwebu am waith sy’n sicrhau bod gan blant yng Nghymru fynediad at adnoddau diogelu hanfodol yn eu mamiaith.
Mae’r elusen yn cynnig rhaglen ddwyieithog ‘Cofia ddweud Cadwa’n ddiogel’, sydd hefyd yn cynnwys adnoddau Cymraeg BSL, sydd wedi’u darparu gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith.
Yn ôl Rhian Jones, Rheolwr Gwasanaeth Ysgolion NSPCC Cymru, mae’r enwebiad yn “gydnabyddiaeth wych” o waith yr elusen, ac maen nhw’n “falch o rannu’r enwebiad gyda’n tîm gwych o wirfoddolwyr sy’n chwarae rhan ganolog yn ein cynnig Cymraeg”.
“Yng Ngwasanaeth Ysgolion NSPCC Cymru, rydym wedi ymrwymo i’r Gymraeg ac yn arbennig o falch o’n cynnig dwyieithog i ysgolion a phlant yng Nghymru,” meddai.
“Caiff ein rhaglen ‘Cofia ddweud Cadwa’n ddiogel’ ei chynnig yn ddwyieithog i bob ysgol yng Nghymru, gan sicrhau bod plant yn gallu cael gafael ar y negeseuon hanfodol hyn yn eu dewis iaith.
“Mae cofleidio’r Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ac o ran darparu gwasanaethau sydd mor bwysig i blant a phobol ifanc yng Nghymru.”
‘Y Gymraeg yn ran o’r diwylliant a’r hunaniaeth’
Wedi’i leoli yn Aberth, mae Celfyddydau SPAN yn uno profiadau celfyddydol a diwylliannol hygyrch ar y cyd i bobol yng ngorllewin Cymru.
Mae’r elusen yn cynnig rhaglen ddwyieithog sy’n “dathlu hunaniaeth gymunedol, cynhwysiant a hygyrchedd, gyda chefnogaeth staff, artistiaid ac aelodau brwdd Cymraeg eu hiaith”.
Dywed y cyfarwyddwr Bethan Touhig-Gamble y byddai derbyn cydnabyddiaeth am waith y gwirfoddolwyr, yr ymddiriedolwyr, y staff a’r bobol greadigol yn “wirioneddol werth chweil”.
“Mae SPAN wedi’i lleoli mewn sir ddwyieithog anhygoel, lle mae’r Gymraeg yn rhan o’r diwylliant a’r hunaniaeth a rennir,” meddai.
“Rydym yn gweithio gydag artistiaid Cymreig amrywiol eu hiaith i adrodd straeon cyfoes Cymraeg a dathlu’r iaith fel rhan o’n rhaglen.”
Adlewyrchiad o’r 19 mlynedd diwethaf
Elusen ddwyieithog wedi’i lleoli yng Ngwynedd yw’r Bartneriaeth Awyr Agored, sy’n “grymuso cymunedau Cymraeg eu hiaith i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored”.
Mae’r elusen yn blaenoriaethu’r Gymraeg ym mhob gohebiaeth, drwy gynyddu hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith yn y sector o 4% i 25%.
Pwysleisia Tracey Evans, Prif Weithredwr yr elusen, gymaint y byddai’r wobr yn ei olygu iddyn nhw.
“Byddai’n cydgrynhoi’r holl waith rydym wedi’i wneud dros y 19 mlynedd diwethaf gan chwalu’r rhwystrau i bobl leol gael mynediad at weithgareddau awyr agored yn eu dewis iaith; creu mwy o gyfleoedd Cymraeg yn y sector awyr agored a chodi ymwybyddiaeth mai’r Gymraeg yw iaith gyntaf llawer o drigolion Cymru,” meddai.
Nifer uchaf erioed o enwebiadau
Dywed Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, eu bod yn “falch iawn” o dderbyn y nifer uchaf erioed o enwebiadau eleni.
Ychwanega fod hynny’n “dyst i waith safonol” y gwirfoddolwyr, y grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru.
“Alla i ddim bod yn fwy cyffrous i gwrdd â nhw ar Dachwedd 25 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a darganfod pwy sydd wedi cipio’r prif wobrau,” meddai.