Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru amlinellu eu cynlluniau ar gyfer treth dwristiaeth i Gymru, fydd yn golygu y gallai ymwelwyr orfod talu i aros dros nos yng Nghymru.

Bydd arian y dreth yn cefnogi’r diwydiant twristiaeth mewn ardaloedd yng Nghymru sy’n boblogaidd iawn ymysg ymwelwyr.

Mae’r Llywodraeth yn nodi y bydd modd i awdurdodau lleol benderfynu a ydyn nhw am gyflwyno’r dreth dwristiaeth yn eu hardal nhw, “ar sail amgylchiadau lleol”.

Bydd y Bil Llety Twristiaid, gafodd ei gyhoeddi yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn 2021, hefyd yn cynnwys cynllun cofrestru ar gyfer y rhai sy’n darparu llety.

Bydd rhaid i’r Bil Llety Twristiaid gael sêl bendith gan y Senedd, ac fe all gymryd blynyddoedd cyn bod modd i gynghorau gyflwyno’r dreth.

Er mwyn sicrhau bod darparwyr llety yn dilyn yr un safonau, mae disgwyl cyflwyno cynllun deddfwriaeth ar wahân.

‘Peryglu swyddi’

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am eu cynlluniau ar gyfer y dreth dwristiaeth, dywed y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw wedi bod yn “glir o’r cychwyn” mai dyma’r polisi “anghywir i Gymru”.

Dywed Peter Fox, llefarydd cyllid a llywodraeth leol y blaid, y byddai treth dwristiaeth yn “peryglu swyddi” ar adeg pan fo busnesau’n “cael eu colbio” gan y Blaid Lafur.

“Bydd yn gweithio yn erbyn ei nodau ei hun drwy annog ymwelwyr i ddefnyddio mwy o atyniadau a gwasanaethau sy’n cael eu cynnal gan y cyngor,” meddai.

“Dylai ein diwydiant twristiaeth gael ei feithrin gan Lywodraeth Cymru, nid ei rwystro gan drethi newydd.”

Galw am gynlluniau “cynhwysfawr a rhagweithiol”

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan alw am gynlluniau “cynhwysfawr a rhagweithiol”.

“Rydym ni’n croesawu’r cynigion i gyflwyno treth twristiaeth a gyhoeddwyd heddiw fel rhan o’r ateb i liniaru effeithiau niweidiol twristiaeth ar ein cymunedau,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau’r Gymdeithas.

“Mae twristiaeth ar ei ffurf bresennol yn ddiwydiant echdynnol, ansicr a thymhorol, sy’n peri niwed i’n cymunedau a’n hiaith.

“Mae’r cymunedau hyn – yn aml rhai o’r tlotaf yn Ewrop – yn profi heriau sylfaenol yn sgil twristiaeth anghynaladwy, megis anfforddiadwyedd tai, diffyg mynediad at wasanaethau cyhoeddus a swyddi byrdymor gyda chyflogau isel.

“Dylai’r arian a gesglir gan y dreth newydd yma gael ei glustnodi gan awdurdodau lleol ar gyfer gwyrdroi’r niwed yma a magu gwydnwch ein cymunedau, er enghraifft trwy fuddsoddi mewn tai cymdeithasol ar gyfer pobol leol neu gynnal a chadw adnoddau cymunedol fel rheiny ddatblygwyd fel rhan o Fenter Bro Ffestiniog fyddai o fudd i’r diwydiant a’r gymuned gyfan.

“Galwn hefyd fod y dreth yn dod law yn llaw â chynlluniau cynhwysfawr a rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i greu diwydiant twristiaeth sy’n gynaliadwy ac sydd o fudd i gymunedau ac economïau lleol, fel rydym wedi’i weld ar draws Ewrop.”