Wrth i’r glaw gilio yn y de erbyn bore heddiw (dydd Llun, Tachwedd 25), mae nifer o’r busnesau gafodd eu heffeithio gan lifogydd y penwythnos wedi bod yn adlewyrchu ar faint y difrod.

Mill Street ym Mhontypridd oedd un o’r llefydd gafodd eu heffeithio waethaf gan y llifogydd.

Roedd y stryd yn gartref i nifer o ddigwyddiadau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

Yn ôl perchennog y caffi Eidalaidd Zucco’s, mae’r gymuned wedi bod yn wynebu difrod difrifol.

“Mae’n hollol drychinebus i nifer o’r busnesau ar Mill Street,” meddai llefarydd ar ran y caffi wrth golwg360.

“Mae cymuned go iawn o fusnesau yma, rydyn ni i gyd yn dibynnu ar ein gilydd.

“Rydych chi’n teimlo dros bawb.

“Rydyn ni’n asesu pethau heddiw.

“Fe wnaethon ni’r gwaith anodda’ ddoe, diolch i gefnogaeth y gymuned.

“Mi wnaethon ni glirio pob siop fesul un a chael gwared ar bopeth oedd angen mynd i’r sgip.

“Nawr, mae angen asesu’r difrod a meddwl am sut fydd busnesau fel Storyville Books, Lost Boys, ac About Face yn medru goroesi.”

Iawndal

Yn ôl Zucco’s, mae’r ymateb uniongyrchol lleol wedi bod yn hynod gadarnhaol.

“Mae Cyngor y Dref wedi bod yn wych,” meddai’r llefarydd.

“Maen nhw wedi prynu dadleithwyr a mopiau er mwyn ein cefnogi ni.”

Ond mae’n rhaid gofyn pam nad oedd paratoadau addas wedi’u gwneud eisoes, meddai.

“Efallai y bydden ni wedi medru cael ychydig yn fwy o rybudd.

“Ers Storm Dennis, rydyn ni’n gwybod fod amddiffynfeydd llifogydd a phympiau tanddaearol wedi cael eu gosod, felly roedden ni dan yr argraff pe bai llifogydd eto na fyddai hi’r un mor ofnadwy.

“Yn amlwg, mae’r pethau gafodd eu gosod wedi methu, ac felly mae angen gofyn pam, a beth fedrwn ni’i wneud er mwyn i’r peth beidio â digwydd eto.

“Efallai bod sail gan rai o’r busnesau yma i ofyn am iawndal, nid dim ond yn ariannol, ond o ran cyfalaf hefyd.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wrthi’n asesu digwyddiadau’r penwythnos ar hyn o bryd.

Gwydn

Fe fu llifogydd difrifol ar lannau’r Wysg yng ngogledd Sir Fynwy hefyd.

Er y bu dŵr dan draed yn nhafarn y Chainbridge Inn ym Mrynbuga, maen nhw’n dweud na fu’n rhaid iddyn nhw gau eu drysau.

“Roedden ni dal yn gweini cinio Sul nes 7 o’r gloch – mae pobol yn eitha’ gwydn o ran cyrraedd yma!” medden nhw wrth golwg360.

“Fe ddaeth yr holl deulu draw i’n cefnogi ni wrth geisio clirio’r dŵr oedd yn dod i mewn.

“Roedden ni yno gyda’n bwcedi ni nes rhyw 9.30 neithiwr.”

‘Ofnadwy’

Yn Abertyleri ym Mlaenau Gwent, fe fu tirlithriad difrifol yn sgil y llifogydd neithiwr (nos Sul, Tachwedd 25).

Mae adroddiadau y bu’n rhaid i nifer o drigolion y dref adael eu cartrefi yn ystod y nos.

Yn ôl y cwmni dodrefn lleol Comfortzone, mae’r profiad wedi bod yn “ofnadwy” i’r gymuned.

“Rydyn ni wedi cael cwsmeriaid yn dod i mewn i gasglu dodrefn am fod eu tai nhw wedi’u gorlifo’n llwyr,” meddai llefarydd.

“Yn ddigon ffodus, mae digon o stoc gennym ni fel ein bod ni’n medru cyflenwi cwsmeriaid yn gloi – ond wir-yr, mae wedi bod yn beth ofnadwy.”

Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru

“Gall llifogydd fod yn ddinistriol, ac rydym yn cydymdeimlo â’r bobl sydd wedi eu heffeithio gan law trwm Storm Bert dros y penwythnos,” meddai Sally Davies, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Yn y cyfnod cyn unrhyw law sylweddol, rydym yn ymgysylltu â’n cydweithwyr yn y Swyddfa Dywydd a’r Ganolfan Rhagweld Llifogydd (FFC), ac rydym yn defnyddio’r modelu a’r rhagolygon sydd ar gael i ni i sicrhau bod ein timau’n barod i ymateb.

“Buom hefyd yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill lle bo hynny’n briodol i sicrhau bod paratoadau yn cael eu rhoi ar waith i leihau’r risg i bobl a chymunedau ledled Cymru.

“Gwnaethom hefyd sicrhau bod negeseuon ynghylch y perygl posibl o lifogydd yn cael eu rhannu gyda’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd sy’n agored i risg.

“Disgynnodd glaw sylweddol ar draws de Cymru – fe wnaethon ni gyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer Afon Taf ym Mhontypridd ddydd Sadwrn gan roi rhybudd ymlaen llaw i bobol fod llifogydd yn bosibl.

“Yn gynnar fore Sul, cafwyd glaw dwys iawn yn nalgylch Taf, gyda hyd at 160mm wedi’i gofnodi mewn rhai lleoliadau. Roedd hynny’n fwy na’r amcangyfrifon cychwynnol.

“Gyda glaw dwys am gyfnod estynedig ar dir sydd eisoes yn llawn dŵr mewn ardal â dyffrynnoedd serth, mae lefelau’r afonydd yn codi’n eithriadol o gyflym.

“Cododd Afon Taf 300mm bob 15 munud ar anterth y glawiad.

“Cafodd rhybudd llifogydd ei gyhoeddi ar gyfer Afon Taf ym Mhontypridd am 7:41yb pan gyrhaeddodd yr afon y lefel sy’n sbarduno rhybuddion llifogydd.

“Gweithiodd ein timau o gwmpas y cloc gyda’r gwasanaethau brys i ymateb i’r digwyddiad arwyddocaol hwn.

“Nawr, fel y gwnawn gyda phob achos o lifogydd sylweddol, byddwn yn adolygu’r ymateb wrth i ni ddechrau ar y cyfnod adfer.

“Gwyddom fod unrhyw lifogydd i gartrefi a busnesau yn ddinistriol – a chafodd llawer o’r bobol gafodd eu heffeithio ddoe eu heffeithio gan stormydd Chwefror 2020 hefyd.

“Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyflwyno amddiffyniad eiddo unigol i gannoedd o gartrefi sydd â risg uwch o lifogydd yn yr ardal hon.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol i adolygu’r perygl llifogydd mewn ardaloedd ar draws dalgylch Taf (gan gynnwys Pontypridd) – bydd hynny’n llywio ein cynlluniau rheoli perygl llifogydd hirdymor.

“Ond does dim datrysiad syml – fel dalgylch serth, sydd felly’n dioddef yn gyflym, a chyda llawer o’r gorlifdiroedd eisoes ag adeiladau arnynt, nid yw lleihau’r perygl o lifogydd yn syml o gwbl.

“Mae lleihau’r risg mewn un gymuned drwy ddulliau ad-hoc yn debygol o gynyddu’r perygl o lifogydd mewn cymuned arall.

“Y canlyniad arfaethedig yw rhaglen gynhwysfawr o brosiectau cysylltiedig ar raddfa dalgylch i’w darparu ar y cyd gan yr Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd.

“Mae’r newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’n sylweddol y peryglon llifogydd sy’n ein hwynebu. Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel y gwnawn mewn cymunedau eraill ledled Cymru, i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i helpu i liniaru ac addasu i’r risgiau a’r peryglon hyn.

“Ond allwn ni ddim atal llifogydd i gyd. Bydd dysgu byw gyda pherygl llifogydd cynyddol, ac addasu i hynny, gan adfer yn gyflymach ar ôl llifogydd, yn gwbl allweddol yn y degawdau nesaf.”

Clwb y Bont, Pontypridd

Llywodraeth Cymru’n ymateb i’r llifogydd dros y penwythnos

Roedd Plaid Cymru wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth Lafur i wneud datganiad